Carcharu pedoffeil ar ôl arestiad ym Mhortiwgal

Monday, 19 October 2026 09:32

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae pedoffeil a adawodd y wlad o dan ymchwiliad wedi cael ei garcharu am 12 mlynedd a hanner.

Plediodd Angel Walker, sydd heb gyfeiriad sefydlog, yn euog i bedwar cyhuddiad o ymosodiad rhywiol hanesyddol yn erbyn merch ifanc.

Cafodd y dyn 64 oed ei arestio yn ddiweddarach ym Mhortiwgal a'i ddychwelyd i'r DU.

Dechreuodd yr ymchwiliad ar ôl i’r dioddefwr, sydd bellach yn oedolyn, roi gwybod i’r heddlu am y troseddau bum mlynedd yn ôl.

Arestiwyd Walker, ond mi adawodd y wlad tra roedd o dan ymchwiliad yn 2022.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, gwaharddwyd Walker rhag cysylltu â'i ddioddefwr am weddill ei oes, o dan orchymyn atal.

Derbyniodd hefyd orchymyn atal niwed rhywiol am oes a bydd hefyd yn gorfod cofrestru fel troseddwr rhywiol am gyfnod penagored.

Dywedodd yr Ymchwilydd Sifil Amy Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r dioddefwr wedi dangos dewrder, amynedd a dyfalbarhad mawr wrth aros cymaint o amser am gyfiawnder, ac mae'n haeddu canmoliaeth am hynny."

"Mae gweithredoedd ffiaidd y diffynnydd wedi cael effaith aruthrol ar ei bywyd. Gobeithio bod y ddedfryd yn caniatáu rhywfaint o ddiweddglo iddi, ac yn helpu’r dioddefwr symud ymlaen efo’i bywyd hi."

"Byddwn yn parhau i ymchwilio'n fanwl i'r math hwn o drosedd a ‘da ni’n annog unrhyw un sydd wedi dioddef cam-drin rhywiol i ddod aton ni. Byddwn yn gwrando ac yn cynnig help, waeth pa mor bell yn ôl y digwyddodd y cam-drin."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'