Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r chwaraewr rygbi Jack Davies yn dilyn ei farwolaeth sydyn yn 24 oed.
Roedd Jack, o Lanfairpwll, yn ail reng i RGC a Chlwb Rygbi Caernarfon - bu hefyd yn gweithio fel athro yn Ysgol David Hughes ym Mhorthaethwy.
Mewn datganiad ar y cyd nos Lun, dywedodd y ddau glwb: "Roedd yn rhan allweddol o deulu RGC a CR Caernarfon ac mae ei farwolaeth yn golled ddinistriol i bawb sy'n gysylltiedig â'r ddau glwb."
"Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda'i deulu, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb oedd yn ei adnabod yn ystod yr amser anodd hwn."
Ar ôl ymuno â Chlwb Rygbi Caernarfon yn 12 oed fel athletwr addawol, datblygodd mewn amrywiaeth o dimau a llwyddodd i fod yn rhan o lwybr RGC, cyn symud i lawr i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio addysg gorfforol a chwaraeon am dair blynedd.
Dychwelodd i CR Gaernarfon ag RGC, gan ailymuno â'r sgwadiau hŷn yn 2023, a chwaraeodd yn Super Rygbi Cymru a Chynghrair Swalec.
Mae'r ddau glwb wedi gohirio eu gemau cartref ddydd Sadwrn fel arwydd o barch.
Mae'r Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth, hefyd wedi ymuno â'r teyrngedau, gan ddweud: "Mae’n meddyliau ni gyd heddiw efo teulu a ffrindiau Jack, holl ddisgyblion a staff Ysgol David Hughes, a’r gymuned rygbi yng ngogledd Cymru. Cwsg yn dawel, Jack."
Dwyeddod llefarydd ar ran URC: "Mae Undeb Rygbi Cymru yn hynod o drist o glywed am farwolaeth sydyn Jack Davies, chwaraewr RGC."
"Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Jack, ei ffrindiau, ei gyd-chwaraewyr a phawb yn RGC yn ystod yr adeg hynod o anodd hon."

Yn ei bentref cartref, chwaraeodd Jack hefyd i'w glwb pêl-droed lleol, Llanfairpwll.
Dwyeddod llefarydd ar ran y clwb: "Wedi ei fagu dafliad carreg o Maes Eilian, Bu Jack yn cynrychioli’r clwb Iau fel rhan o dim chwedlonol Celtiaid Llanfairpwll cyn mynd ymlaen i gynrychioli’r clwb hŷn."
"Hyd yn oed wedi ei ddyddiau chwarae ddod i ben, roedd Jack wastad yn fodlon ei gymwynas i fod o gymorth lle gallai."
"Yn annwyl, yn garedig, yn gymwynasgar ac yn ffrind I gymaint, bydd colli Jack yn ergyd drom I lawer. Mae’n meddyliau, ein gweddiau a’n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu, ffrindiau ac anwyliad Jack."
Dywedodd Ysgol David Hughes – lle roedd ef hefyd yn gyn-ddisgybl – fod marwolaeth Jack yn "golled enfawr i gymuned yr ysgol".
Mewn teyrnged, cafodd ei ddisgrifio fel "ffrind, mentor, mdel rôl ac yn "ffynhonnell gyson o gefnogaeth i gynifer".
Mae noson agored yn yr ysgol nos Fawrth wedi cael ei chanslo, ynghyd â phob clwb chwaraeon yr wythnos hon.
Dyweddod llefarydd ar ran Ysgol David Hughes: "Bu ar un adeg yn cerdded yr un coridorau ac yn eistedd yn yr un ystafelloedd dosbarth â'r bobl ifanc y daeth yn ddiweddarach i'w haddysgu, eu harwain a'u hysbrydoli."
"Roedd ei daith o fod yn ddisgybl i fod yn aelod gwerthfawr o staff yn destun balchder mawr i'n cymuned ysgol gyfan, ac roedd ei gysylltiad â'r ysgol yn un dwfn a pharhaol."
"Roedd Jack yn angerddol dros chwaraeon ac roedd rygbi yn dal lle arbennig iawn yn ei galon. Roedd yn credu'n gryf yn y gwerthoedd y gall chwaraeon eu meithrin mewn pobl ifanc megis gwaith tîm, gwydnwch, parch, ymrwymiad a chyfeillgarwch."
"Rhoddodd yn hael o'i amser i gefnogi ac annog ein disgyblion ac ysbrydolodd eu cariad at y gamp."
"Ar yr adeg anodd iawn hon, mae ein meddyliau, ein gweddïau a'n cydymdeimlad dwysaf gyda theulu, ffrindiau ac anwyliaid Jack."


Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr
Chwilio am fusnes newydd i redeg caffi Oriel Môn
Llofruddiaeth Caergybi: terynged i 'ddyn teulu'
Bangor: cyllid ynni ar gyfer canolfan rhoi gwaed