Bydd canolfan rhoi gwaed ym Mangor yn derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru i leihau ei chostau ynni.
Bydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn derbyn cyfran o dros £500,000 i wella effeithlonrwydd ynni mewn dau safle sy'n perthyn i Wasanaeth Gwaed Cymru yn y Gogledd.
Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i osod paneli solar, batris, pympiau gwres a mannau gwefru cerbydau trydan, gan helpu i wella effeithlonrwydd, gwydnwch a chynaliadwyedd y ddau safle ym Mangor a Wrecsam.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y grant yn helpu i gefnogi'r broses o drosglwyddo Gwasanaeth Gwaed Cymru i gerbydau trydan a'i gyfraniad at targedau sero net GIG.
Dim ond dau brosiect yn y Gogledd fydd yn derbyn cyfran o fwy nag £8.2 miliwn o drydedd rownd cyllid Ynni Cymru, sydd â'r nod o leihau costau ynni a thorri allyriadau carbon.
Dywedodd y Gweinidog Ynni, Adam Price: "Mae'r prosiectau hyn yn dangos sut y gall ynni glân gefnogi'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnynt bob dydd. Boed hynny'n helpu myfyrwyr i ddatblygu'r sgiliau fydd eu hangen arnynt yn y gweithle yn y dyfodol neu'n cefnogi gwasanaeth iechyd sy'n gwneud cyfraniad hanfodol at ofal cleifion ledled Cymru."
"Mae Ynni Cymru yn gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau ynni glanach a rhatach, sy'n cael ei berchnogi a'i ddefnyddio gan bobl a chymunedau ledled Cymru."


Cyhoeddi cau ffyrdd Ffair Borth
Carcharu treisiwr am 17 mlynedd
Gareth yr Orangutan yn dod i MônFM!
Llofruddiaeth Caergybi: dyn yn y ddalfa tan fis Ionawr
Chwilio am fusnes newydd i redeg caffi Oriel Môn