Mae dyn wedi ei garcharu ar ôl dwyn gwerth dros £50,000 o dlysau o siop ym Mangor.
Yn Llys y Goron Caernarfon, cafodd Iain Butterworth o Maesgeirchen ei garcharu am ddwy flynedd ac wyth mis ar ôl cyfaddef dwyn ac achosi difrod troseddol yng nghanolfan Deiniol.
Ar 25 Mawrth 2023, mi dresmasodd Butterworth (50 oed) i'r ganolfan siopa ar y Stryd Fawr tra ‘roedd ar gau, gan ddefnyddio teclyn ar gyfer torri drysau gwydr siop hen bethau, er mwyn torri i fewn.
Wedi cael mynediad, mi wnaeth Butterworth ddwyn swm mawr o dlysau, gwerth tua £56,100 o'r siop hen bethau, gan roi’r cyfan mewn bag plastig cyn dianc o’r ganolfan siopa.
Mi gofnodwyd y digwyddiad ar TCC, a wnaeth adnabod Butterworth.
Dywedodd y swyddog ymchwilio, PC Stephanie Owen, o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae byrgleriaeth o unrhyw fath yn drosedd ymosodol, a gallai fod yn anodd iawn i ddioddefwyr ddod i delerau efo’r ffaith bod troseddwyr wedi bod yn eu cartrefi neu eu busnesau er mwyn dwyn eiddo."
"Yn yr achos hwn, ni wnaeth Butterworth ystyried perchnogion y busnes na’u heiddo o gwbl."
"Da ni’n benderfynol o barhau i sicrhau bod lladron yn cael eu carcharu, a ‘da ni’n croesawu’r ddedfryd hon i’r carchar gan y llys y tro yma."


Cyngor yn cefnogi'r ymgyrch Nid Fy Nghywilydd
'Newidiadau sylweddol' yn Ysgol Friars - arolygwyr
Carcharu dyn am cyfres o droseddau ym Mangor
Streicwyr Friction yn serennu mewn drama newydd
Atafaelu tybaco anghyfreithlon o siopau Môn