Caiaciwr ar goll: darganfod corff ail ddyn

Wednesday, 29 July 2026 18:33

By Ystafell Newyddion MônFM

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae corff ail ddyn wedi cael ei ddarganfod wrth chwilio ddau gaiaciwr ar goll o Bwllheli.

Cafodd yr heddlu eu galw i addroddiadau am gorff wedi'i ddarganfod yn y môr ger Llwyngwril tua 7.20yh nos Fawrth.

Mae'r dyn bellach wedi'i adnabod fel Simon Wilson, a ddiflannodd gyda Connor Parfitt o draeth Hafan y Môr wythnos diwethaf.

Mae teulu Mr Wilson a'r crwner lleol ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru wedi cael eu hysbysu.

Cafodd corff Mr Parfitt ei ganfod ar draeth yn Aberystwyth brynhawn Sul.

Bu chwiliadau helaeth gan y gwasanaethau brys am y ddau yn dilyn pryderon gan yr heddlu.

Dywedodd Prif Arolygydd Stephen Pawson o Heddlu Gogledd Cymru: "Dwi'n rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf hefo teulu Simon yn y cyfnod hynod anodd hwn."

"Nid dyma'r canlyniad yr oedd unrhyw un ohonon ni wedi gobeithio amdano fo, gan gynnwys y timau sy'n rhan o'r chwilio."

"Diolch i'r asiantaethau partner, gwirfoddolwyr a'r cyhoedd am helpu hefo'r chwilio. "'Da ni'n gofyn i breifatrwydd teuluoedd Simon a Connor gael ei barchu."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Paul Anthony's Thursday Night Love Songs

    9:00pm - 11:00pm

    Join Paul as he brings you the perfect mix of love songs to unwind your Thursday night.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'