Mae llys wedi cynyddu dirwy dyn o Gaernarfon a dympiodd sbwriel mewn mynwent.
Ym mis Ionawr, dirwywyd dau berson am dipio anghyfreithlon ym mynwent Llanbeblig yn ystod y Nadolig diwethaf.
Rhoddwyd cosb o £150 i un o'r unigolion am ofyn i rhywun nad oedd gyda trwydded ddilys i gludo gwastraff ar eu rhan. Cafodd y llall gosb o £180 am waredu'r gwastraff mewn ffordd anghyfreithlon ac am gludo gwastraff heb fod â thrwydded i wneud hynny.
Ond yr wythnos hon, dygwyd un o'r unigolion i'r llys am nad oedd wedi talu'r dirwy. Plediodd yn euog a dedfrydwyd ef i dalu £368, sy'n cynnwys costau llys.
Mae Cyngor Gwynedd yn atgoffa'r cyhoedd y bydd unrhyw un sy'n gwaredu gwastraff yn anghyfrifol neu'n anghyfreithlon yn wynebu canlyniadau difrifol.
Dyweddod y Cynghorydd June Jones, aelod y cabinet dros wasanaethau stryd: "Mae tipio anghyfreithlon, gwaredu gwastraff yn anghyfrifol a throseddau amgylcheddol eraill yn achosi niwed sylweddol i'n cymunedau ac i'r amgylchedd."
"Nid yw'r math hwn o ymddygiad yn dderbyniol, ac fel y gwelwyd yn achos Llanbeblig, byddwn yn defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni i gymryd camau gorfodi, gan gynnwys rhoi hysbysiadau cosb benodedig ac, os bydd angen, i erlyn y rhai sy'n gyfrifol."
"Mae'r achos diweddar yn dangos yn glir y byddwn yn mynd ar drywydd y rhai sy'n methu â chydymffurfio â'r gyfraith, ac na fydd methu â thalu Hysbysiad Cosb Benodedig yn golygu bod y mater yn dod i ben."
"Nid oes unrhyw esgus am daflu neu adael ysbwriel. Mae gweithredoedd o'r fath yn gwneud i'n hardaloedd edrych yn flêr, yn peri risgiau i iechyd y cyhoedd, yn llygru'r amgylchedd ac yn niweidio bywyd gwyllt."
"Dwi'n atgoffa pobl fod cyfrifoldeb arnynt i wirio os ydi rhywun sy'n cael gwared â sbwriel neu glirio tŷ ar eu rhan gyda thrwydded i wneud hynny. Mae'r rhan helaethaf o gwmnïau sy'n darparu'r math yma o wasanaeth yn gwneud hynny mewn ffordd gyfrifol a chyfreithlon."
"Ond fel mae'r achos yma yn dangos mae pobl ddi-hid allan yna sy'n fodlon ei waredu mewn ffordd anghyfrifol, a gall hyn arwain at ganlyniadau difrifol i chi."
Mae'r cyngor, a gafodd wybod gan aelodau'r cyhoedd, wedi gosod arwyddion yn y fynwent i rybuddio'r cyhoedd rhag tipio anghyfreithlon a'r canlyniadau posibl.
Ychwanegodd Steven Edwards, rheolwr gwasanaeth gorfodaeth stryd: "Rydym yn ddiolchgar iawn i aelodau o'r cyhoedd a gymerodd yr amser i adrodd y digwyddiadau hyn. Cofiwch, gall unrhyw un roi gwybod i'r cyngor am droseddau amgylcheddol drwy'r wefan neu drwy ap apGwynedd."


Ysgoloriaeth i artist ifanc o Ddeiniolen
Niwbwrch: arestio dyn mewn cyrch cyffuriau
Plaid yn cadw sedd Bro’r Llynnoedd
Tystiolaeth newydd i amddiffyn bywyd gwyllt morol
Cyhuddo dyn o ladrad ym Mangor