Caergybi: cyhuddo dyn o ddwyn o siopau

Wednesday, 11 November 2026 at 14:08

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn 25 oed o Gaergybi wedi cael ei gyhuddo o ddwyn o nifer o siopau yn y dref.

Mae Niall Wyn Davies, o Glos Llanfawr, yn cael ei gyhuddo o naw trosedd o ddwyn o siop rhwng dydd Gwener 23 Hydref a dydd Sul 8 Tachwedd..

Mi fydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon dydd Mawrth 24 Tachwedd.

Daw hyn wrth i Heddlu Gogledd Cymru nodi Wythnos Gweithredu Busnesau Mwy Diogel, sy'n canolbwyntio ar droseddau busnes a’r effaith gallan nhw ei chael ar fân-werthwyr, lleoliadau lletygarwch, gwasanaethau lleol a’r gymuned ehangach.

Dywedodd Arolygydd yr Ardal Wayne Francis: "Mae swyddogion yn gweithio efo mân-werthwyr a busnesau drwy gydol y flwyddyn er mwyn atal a tharfu ar weithgarwch troseddwyr di-baid."

"Mae troseddau busnes yn effeithio arnom ni i gyd. Drwy gydweithio, mi allwn ni helpu i greu canol trefi mwy diogel ac economïau lleol cryfach."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gareth yr Orangutan

    Noon - 2:00pm

    Hwyl a chwerthin yng nghwmni yr Orangutan mwyaf poblogaidd Cymru!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'