Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid

Friday, 4 September 2026 20:42

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu'n chwilio am gi yn dilyn ymosodiad ar ddefaid ym Modorgan fis diwethaf.

Cafodd tair dafad anafiadau i’w coesau ôl ac mae un arall ar goll yn dilyn digwyddiad mewn caeau ger Llangristiolus.

Digwyddodd rywbryd rhwng 5.30yp a 6yh.ar ddydd Gwener 21 Awst.

Dyweddod SCCH Rhys Evans o uned troseddau cefn gwlad yn Heddlu Gogledd Cymru: "Gofynnwn i unrhyw un a oedd yn cerdded eu ci drwy’r caeau ar y pryd i gysylltu â ni."

"Unwaith eto rydym yn ymbil ar berchnogion cŵn i gadw eu cŵn ar dennyn pan fydd anifeiliaid fferm o gwmpas er mwyn osgoi tarfu arnynt a’u niweidio."

"Os ydy eich ci wedi dianc mewn ardal wledig dylech rhoi gwybod i’r heddlu cyn gynted a phosib fel y gall ffermwyr a thirfeddianwyr gael gwybod."

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am yr ymosodiad, cysylltwch â SCCH Evans ar 101 neu drwy'r sgwrs fyw ar wefan Heddlu Gogledd Cymru, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000686983.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Cari Hedd

    Noon - 3:00pm

    P'nawn Sul yng nghwmni Cari Hedd ar MônFM.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'