Mae dyn 39 oed wedi cael eu arestio yn dilyn ymgyrch heddlu fawr ym Mangor, gan gynnwys rhwystr ffordd.
Cafodd Jerry Berry ei weld ar y Stryd Fawr prynhawn dydd Mercher yn dilyn helfa gyda swyddogion yn gynharach yn y dydd.
Roedd y dyn 39 oed o Wrecsam yn cael ei geisio ar amheuaeth o gyflawni byrgleriaeth a dwyn.
Yn ystod yr prynhawn, roedd yr heddlu yn stopio a chwilio pob cerbyd yn mynd i mewn ac yn gadael y ddinas er mwyn dod o hyd i Berry.
Yn dilyn ei arestio, meddai'r Arolygydd Ardal Gogledd Gwynedd, Jamie Owens: "Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad ac amynedd wrth i ni ddelio â’r digwyddiad yma."
"Rwy’n deall y byddai presenoldeb heddlu mawr wedi bod yn bryderus i drigolion, ond hoffwn sicrhau’r gymuned bod hyn wedi arwain at arestiad effeithiol Berry, sydd bellach ar ei ffordd i’r ddalfa."


Carcharu dyn am dreisio dynes tra roedd hi'n cysgu
Gwobr genedlaethol am fenter realiti rhithwir
Dynes ifanc wedi marw yng Ngŵyl Tonnau
Gweinidog yn agor estyniad Ysgol y Graig
Ymgeisydd annibynnol yn ennill isetholiad Llanrug