Bangor: carcharu siopleidr am ddwyn dillad

Monday, 24 August 2026 17:06

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae siopledr "toreitiog" o Fangor wedi cael ei garcharu ar ôl dwyn gwerth £200 o ddillad.

Plediodd Thomas Lloyd, 28 oed, yn euog ddwyn pedwar dilledyn o siop JD ar y Stryd Fawr yn y ddinas fore Iau diwethaf.

Cafodd ei arestio a'i gyhuddo ar ôl i'r lladrad gael ei ffilmio ar deledu cylch cyfyng.

Yn Llys Ynadon yr Wyddgrug fore Sadwrn, cafodd ei garcharu am gyfanswm o 10 wythnos, gan gynnwys dedfryd ohiriedig o bedair wythnos.

Roedd yn ymddangos yn y llys am yr ail dro mewn llai na wythnos, yn dilyn ddwyn arall.

Dywedodd Rhingyll Gemma Rodrigues o Heddlu Gogledd Cymru: "Rydym yn parhau i gefnogi siopau a busnesau lleol wrth iddynt fynd i'r afael â throseddau manwerthu ar draws Gogledd Gwynedd."

"Rydym yn cydnabod effaith dwyn o siopau, nid yn unig ar fusnesau a'u staff ond hefyd ar y gymuned leol. Bydd ein timau yn parhau i ddelio'n gadarn gydag unrhyw ladradau o siopau ac yn edrych i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell cyn gynted â phosibl."

Cafodd hefyd orchymyn i dalu £200 mewn iawndal.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'