A470: terynged i feiciwr modur a fu farw

Friday, 14 August 2026 14:38

By Ystafell Newyddion MônFM

Llun teulu (Heddlu Gogledd Cymru)

Mae beiciwr fodur a fu farw mewn gwrthdrawiad ar Fwlch y Gorddinan wedi cael ei enwi.

Bu farw Alan Williams yn lleoliad gwrthdrawiad rhwng beic modur a char ar yr A470 ger Blaenau Ffestiniog brynhawn Sul diwethaf.

Roedd yn 58 oed ac yn dod o ardal Trefor ym Mhen Llŷn.

Mae teulu Mr Williams, a'i adnabyddir yn well fel Yncl Al, wedi ei ddisgrifio fel "fab, brawd, ewythr a chymar annwyl, ac yn ffrind gorau i nifer o bobl".

Mewn datganiad terynged drwy'r heddlu, dwyeddod: "Mi roedd yn ymroddedig i’w deulu cyfan ac roedd yn meddwl y byd ohonyn nhw, ac mi fyddai’n gwneud unrhyw beth i unrhyw un."

"Mi roedd Alan yn ddyn cymdeithasol a gweithgar oedd efo amser i bawb. Mi roedd yn adnabyddus yn yr ardal leol, lle roedd yn gweithio fel saer ac mi roedd gan ei gwsmeriaid feddwl mawr ohono."

"Mi roedd yn mwynhau treulio amser efo’i ffrindiau a’i deulu, ac mi roedd yn adnabyddus am dynnu coes pobl. Mi roedd ganddo nifer o ddiddordebau a hobïau, gan gynnwys heicio, caiacio, cerddoriaeth a hanes lleol."

"Mi roedd wrth ei fodd efo anifeiliaid a bod yn yr awyr agored, ac mi roedd ganddo ddiddordeb brwd mewn bwyd. Yn ei amser rhydd, mi roedd Alan hefyd yn mwynhau bod allan ar ei feic modur. Mi roedd yn feiciwr modur brwd ac angerddol. Mae’r gymuned leol mewn sioc ar ôl ei golli."

“Mi hoffwn ni ddiolch i’r bobl sydd wedi gwneud cysylltiad yn ystod y cyfnod anodd hwn. Fel teulu, mae’n calonnau ni wedi torri ac mi hoffem ni gael amser er mwyn galaru. Mi ofynnwn ni am breifatrwydd ar hyn o bryd.”

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn parhau apelio am dystion neu unrhyw lluniau CCC neu gamera cerbyd.

Bu'r ffordd ar gau am sawl awr yn dilyn y gwrthdrawiad rhwng Dolwyddelan a Blaenau Ffestiniog toc wedi 1.30yp.

Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch ag Uned Troseddau’r Ffyrdd ar 101 neu drwy’r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu’r rhif cyfeirnod 26000648860.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Rheinallt Davies

    4:00pm - 7:00pm

    Ymunwch â Rheinallt am gymysgedd o gerddoriaeth Gymraeg a Saesneg o bob degawd ar MônFM. Wel, dim pob un... dwi'm yn gweld o'n chwarae stwff o'r 1840au!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'