Mae ymchwiliadau'r heddlu'n parhau yn dilyn cyrch cyffuriau ym Mhlas Glynllifon, ger Caernarfon.
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cadarnhau bod gwarant wedi'i gweithredu o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau ddydd Mawrth.
Mewn datganiad nos Fawrth, dwyeddod llefarydd: "Bydd gweision yr heddlu yn parhau i fod yn bresennol yn y lleoliad am rai dyddiau, tra bo ymholiadau pellach yn cael eu cynnal."
"Gofynnwn yn garedig i’r cyhoedd gadw draw o’r lleoliad hyd nes y bydd yr ymholiadau wedi dod i ben."
Nid oes unrhyw fanylion pellach ar gael.
Mae Plas Glynllifon - plasty o'r 19eg ganrif ger Llandwrog - wedi bod ar werth ers 2024, dim ond dwy flynedd ar ôl i'r safle gael ei brynu gan Davis Savage, dyn busnes o Fanceinion.


Agor cwest i farwolaeth gyrrwr ifanc
Senedd 2026: ymgeiswyr Gwynedd Maldwyn
Senedd 2026: ymgeiswyr Bangor Conwy Môn
Cadwraeth 'dros y dibyn' ym Mhen Llŷn
Rhybudd ar ôl tirlithriad ar draeth Nefyn