Bu farw dyn 20 oed o anafiadau difrifol i'w ben mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd, yn ôl patholegydd.
Mae cwest wedi ei agor i farwolaeth Elis Ogilvy-Barsdley o Bwllheli yn dilyn y damwain ar yr A499 ger Y Ffôr fis diwethaf.
Roedd Mr Ogilvy-Barsdley yn gyrru car Ford Fiesta du pan wrthdarodd ag Audi A3 coch ar nos Sadwrn 28 Mawrth.
Bu farw Mr Ogilvy-Bardsley yn y fan a'r lle a chafodd tri o bol ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Yn dilyn archwiliad post mortem, cofnodwyd achos marwolaeth dros dro fel "anaf difrifol i'w ben yn dilyn grym sylweddol".
Gohiriwyd y cwest gan grwner cynorthwyol y gogledd orllewin, Sarah Riley, tra bod ymchwiliad yr heddlu i'r ddamwain yn parhau.
Roedd Mr Ogilvy-Bardsley yn gweithio yn y siop Asda yn ei dref enedigol ac wedi cael ei dderbyn i Brifysgol Bangor lle'r oedd yn paratoi i astudio'r Cyfryngau.
Mewn terynged drwy'r heddlu, dwyeddod ei deulu: "Roedd Elis yn fab, brawd, ŵyr, nai a chefnder gofalgar ac ystyriol."
Mae apêl ar-lein er budd ei deulu wedi codi mwy na £22,000 mewn llai na phythefnos.


Carcharu dyn am dreisio dynes tra roedd hi'n cysgu
Gwobr genedlaethol am fenter realiti rhithwir
Dynes ifanc wedi marw yng Ngŵyl Tonnau
Gweinidog yn agor estyniad Ysgol y Graig
Ymgeisydd annibynnol yn ennill isetholiad Llanrug