Mae dyn 21 oed wedi cael ei arestio am ddwyn tanwydd o garej yn y Fali.
Ymatebodd yr heddlu i addrodiad bod rhywun wedi gyrru i ffwrdd heb dalu mewn gorsaf betrol ar Ffordd Llundain toc cyn hanner nos ar nos Sul.
Canfuwyd y cerbyd ychydig yn ddiweddarach ac arestiwyd dyn 21 oed o Gaergrawnt.
Yn ôl ditectifs, atafaelwyd y cerbyd hefyd am nad oedd wedi ei yswirio.
Mae'n dilyn cynnydd mewn lladradau tanwydd a digwyddiadau gyrru i ffwrdd.yn sgil gwrthdaro'r Dwyrain Canol.
Dwedodd Rhingyll Cynorthwyol Matt Bentley o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae dwyn tanwydd yn rhoi straen sylweddol ar fusnesau yn ogystal a chael effaith ar staff sy’n gweithio yno."
"Rydym yn parhau i weithredu’n gadarn i fynd i’r afael â’r mater hwn, gan weithio i adnabod troseddwyr, tarfu ar droseddwyr parhaus a sicrhau bod y rhai sy’n gyfrifol yn dod o flaen eu gwell."


Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir
Carcharu dyn wedi ymosodiad rhywiol ar ferch
A55: cyhuddo dyn ar ôl gyrru y ffordd anghywir
Ffair yn dathlu treftadaeth Ynys Cybi