Bydd ymgynghoriad cyhoeddus yn ystyried treth dwristiaeth bosibl ar Ynys Môn.
Mae deddfwriaeth yng Nghymru, a gyflwynwyd ym mis Medi 2025, yn rhoi'r dewis i gynghorau gyflwyno ardoll ar gyfer arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr, ond nid yw'n orfodol.
Mae'r ardoll ymwelwyr yn cynnwys ffi ychwanegol ar arosiadau dros nos - £1.30 y noson mewn llety ymwelwyr, gan gynnwys gwestai, a 75c y noson mewn meysydd gwersylla a hosteli.
Caerdydd fydd y rhan gyntaf o Gymru i gyflwyno'r ardoll yn 2027.
Ar ddydd Mawrth, cytunodd y cynghorwyr i wahodd safbwyntiau gan breswylwyr, busnesau lleol, ymwelwyr a sefydliadau partner ar yr ardoll posibl, mewn ymdrech i gael gwell dealltwriaeth o farn leol
Mae Cyngor Gwynedd hefyd yn ystyried ymgynghoriad cyhoeddus, a disgwylir penderfyniad yr wythnos hon.
Dywedodd arweinydd Cyngor Môn, Gary Pritchard: "Mae twristiaeth yn rhan hollbwysig o'n heconomi a'n hunaniaeth, ond rydym hefyd yn gwybod ei fod yn dod a heriau sydd yn amlwg yn ein cymunedau ac yn ystod tymhorau."
"Bwriad yr ymgynghoriad hwn yw gwrando'n ofalus ar y safbwyntiau hynny - yn enwedig gan fusnesau lleol, preswylwyr a'r cymunedau yr effeithir arnynt fwyaf gan bwysau ymwelwyr - cyn dod i unrhyw benderfyniad."
"Nid oes penderfyniad wedi ei wneud eto, a bwriad ymgynghori yw sicrhau bod unrhyw ddull arfaethedig, os bydd un o gwbl, yn seiliedig ar dystiolaeth leol, blaenoriaethau lleol a thrafodaethau gwybodus."
Mae adroddiad y cyngor sir yn amlygu nifer o fuddion posibl, yn cynnwys
- Darparu cyllid ychwanegol yn helpu i gynnal cyfleusterau ymwelwyr fel llwybrau troed, toiledau a meysydd parcio.
- Cefnogi twristiaeth gynaliadwy a rhoi llai o bwysau ar gymunedau a'r amgylchedd.
- Cyfleoedd i fuddsoddi mewn prosiectau sy'n gwella asedau diwylliannol yr ynys ac yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg.
Ond mae'r adroddiad a gyflwynwyd i gynghorwyr hefyd yn cydnabod yr heriau a'r pryderon posibl, yn cynnwys:
- Yr effaith bosibl ar fusnesau twristiaeth, yn enwedig darparwyr llety llai.
- Ansicrwydd ynghylch sut fydd ymwelwyr yn ymateb i ffi ychwanegol.
- Yr angen i sicrhau bod unrhyw refeniw yn dryloyw, yn ychwanegol ac yn darparu buddion clir ar gyfer twristiaeth.
Yn ôl y cyngor, nid oes unrhyw benderfyniad wedi'i wneud ynghylch a fydd ardoll ymwelwyr yn cael ei gyflwyno a byddai unrhyw benderfyniad yn digwyddiad ar ôl "ystyried adborth yr ymgynghoriad a'r dystiolaeth ategol yn ofalus".
Ond yn ôl un grŵp lobïo, byddai twristiaeth yng Nghymru mewn perygl o golli tua £359 miliwn o ganlyniad.
Dyweddod Cynghrair y Trethdalwyr (TaxPayers Alliance), mae treth ymwelwyr "mewn perygl o ddod yn dreth arall sy'n niweidio twf economaidd wrth roi mwy o bwysau ar fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd."
Ychwanegodd: "I lawer o fusnesau Cymru, yn enwedig mewn cymunedau gwledig ac arfordirol, mae twristiaeth yn ffynhonnell hanfodol o swyddi a gweithgarwch economaidd."
"Mae gwestai, tafarndai, bwytai ac atyniadau eisoes yn wynebu costau cynyddol a hyder defnyddwyr gwannach. Mae cyflwyno treth arall mewn perygl o yrru ymwelwyr i fannau eraill ar adeg pan fo angen cefnogaeth ar y sector."
"Yn lle dibynnu ar drethi newydd i lenwi bylchau yn y cyllid cyhoeddus, dylai llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ganolbwyntio ar bolisïau sy'n annog twf economaidd, yn denu ymwelwyr ac yn gwneud Cymru yn lle mwy cystadleuol i ymweld ag ef a buddsoddi ynddo."
Bydd manylion am yr ymgynghoriad cyhoeddus, a sut all pobl gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi'n fuan gan Gyngor Môn.
Dyweddod Christian Branch, pennaeth datblygu economaidd y cyngor: "O safbwynt datblygu economaidd, mae'n bwysig ein bod yn deall yn iawn y cyfleoedd posibl a'r risgiau ar gyfer yr Ynys cyn gwneud unrhyw benderfyniad."
"Mae'r dystiolaeth yn ymwneud â'r ardoll ymwelwyr yn dangos y gall yr effeithiau amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar gyd-destun lleol, ymddygiad ymwelwyr a sut y defnyddir refeniw."
"Bydd yr ymgynghoriad hwn yn ein helpu i brofi'r dystiolaeth honno yn erbyn economi, tirlun busnes a phatrymau twristiaeth tymhorol penodol Ynys Môn, a sicrhau bod amrywiaeth o leisiau'n cael eu hadlewyrchu yn y dadansoddiad."


Newidiadau mawr i amserlenni trên
Cyhoeddi cabinet newydd Llywodraeth Cymru
Beiciwr modur wedi marw yn Llanfachraeth
Rhun ap Iorwerth yw Brif Weinidog newydd
Môn wrth galon Cadair a Choron Urdd 2026