Rhun ap Iorwerth yw Brif Weinidog newydd

Tuesday, 12 May 2026 23:34

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae Rhun ap Iorwerth wedi dod yn Brif Weinidog Cymru, yn dilyn seremoni tyngu llw yng Nghaerdydd.

Cafodd Mr ap Iorwerth ei enwebu yn Brif Weinidog mewn pleidlais hanesyddol yn y Senedd prynhawn Mawrth.

Ar ôl y bleidlais, fe wnaeth dyngu llw o dan oruchwyliaeth yr Anrhydeddus Mrs Ustus Mary Stacey DBE mewn seremoni ffurfiol o flaen aelodau o’i deulu, gan ddod yn arweinydd Cymru yn ffurfiol.

Ef yw’r Prif Weinidog cyntaf i gynrychioli etholaeth yn y Gogledd, ar ôl cael ei ethol i gynrychioli Bangor Conwy Môn yn etholiad y Senedd ddydd Iau diwethaf.

Mae Plaid Cymru yn bwriadu ffurfio Llywodraeth Cymru leiafrifol, ar ôl ennill 43 allan o 96 sedd - chwech yn brin o fwyafrif.

Yn ystod y sesiwn lawn, etholwyd Mr ap Iorwerth gyda 44 pleidlais, yn erbyn 34 pleidlais i Dan Thomas, arweinydd Reform UK yng Nghymru, a saith pleidlais i Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Penderfynodd y grŵp Lafur Cymru a Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ymatal.

Yn ei araith i’r Senedd yn dilyn y bleidlais, dywedodd Mr ap Iorwerth: "Braint fy mywyd i ydy cael fy ethol yn Brif Weinidog ar y genedl sy’n golygu cymaint imi."

"Dw i’n ysu i ad-dalu yr ymddiriedaeth mae pobl Cymru wedi’i rhoi ynom ni ac i wireddu y newid y mae pobl wedi datgan mor glir y maen nhw am ei weld."

"Mae rhywbeth newydd wedi ei danio yn enaid Cymru. Hyder newydd, gobaith newydd. Gorwel ehangach a newydd, na fydd yn cael ei gulhau byth eto."

"O’r foment hanesyddol hon ymlaen, bydd pob person ym mhob rhan o’n cenedl yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn llywodraeth iddyn nhw."

"Fy addewid i bawb yw y byddaf yn arwain heb ragfarn neu ragdybiaeth. Ni fyddaf byth yn cymryd y fraint hon yn ganiataol."

Cafodd y cyn-Ddirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca Davies, ei ethol fel y Llywydd newydd, gan olynu Elin Jones wedi 15 mlynedd.

Mae Kerry Ferguson, AS newydd Plaid Cymru, wedi ei ethol fel Dirpwy Newydd.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Drivetime with Supertemps

    4:00pm - 6:00pm

    Great music and MônFM's weekly jobs update with Supertemps. Find out more at www.supertemps.co.uk.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'