Mae tad a fu farw mewn damwain ger Pentreath wedi cael ei disgrifio fel ''mab a brawd annwyl iawn''.
Bu farw Arwyn Jones, 29 oed, o Llanairpwll, yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar yr A5025 fis diwethaf.
Cafodd dyn 22 oed ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.
Mewn terynged ddiffuant drwy'r heddlu, dyweddod Sioned: "Fel ei wraig, dwi wedi torri fy nghalon. Roedd Arwyn yn ŵr, tad, mab a brawd annwyl iawn ac fel teulu, mae ein bywydau ni wedi newid am byth ar ôl ei golli."
"Roedd Arwyn a fi wedi bod hefo'n gilydd ers dros 15 mlynedd a fo oedd fy enaid hoff cytûn. Ein merch, Lilly, oedd ei fywyd. Mae ein byd ni wedi chwalu."
"Byddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un ac yn mwynhau ei waith fel cynorthwyydd cegin mewn cartref gofal ym Mhentraeth, lle roedd wedi gweithio ers mis Medi y llynedd."
"Roedd wedi gwirioni ar Star Wars, roedd yn mwynhau chwarae gemau, wrth ei fodd yn mynd am dro hir yn y goedwig a thorri coed hefo'i dad. Byddwn ni i gyd yn ei golli'n fawr."
Bydd crwner Gogledd Orllewin Cymru yn agor cwest i farwolaeth Mr Jones yng Nghaernarfon ddydd Mercher.
Mae'r heddlu yn parahu i apelio am dystion a gwybodaeth i helpu hefo'u hymchwiliad parhaus i'r digwyddiad a fu rhwng Pen-y-Garnedd a Pentraeth Automotive.
Roedd y digwyddiad yn ymwneud â Peugeot 208 llwyd, wedi'i yrru gan Mr Jones, ac Audi A5 Quattro aur.
Dyweddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Gofynnir i unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd yr A5025 tua 6.30am ar 25 Ionawr, ac a allai fod wedi bod yn dyst i'r digwyddiad, neu a allai fod hefo lluniau camera cerbyd perthnasol, gysylltu hefo swyddogion."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod 26000067199.


Buddsoddiad yn dod â bywyd newydd i feysydd chwarae
Arestio dyn wedi ymosodiad honedig ym Mangor
Arestio dyn am gario cyllell ym Mhrifysgol Bangor
Fandaliaid yn targedu cae pêl-droed
Pont Menai: gwaith i ddechrau ar drawstiau croes