Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig

Thursday, 3 September 2026 12:31

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae'r heddlu'n cynyddu ymdrechion i fynd i'r afael â fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Chwarel Dinorwig.

Yn ôl swyddogion troseddau gwledig, bu digwyddiadau o ddifrod troseddol a llosgi bwriadol yn y safle dros y misoedd diwethaf.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru y byddan nhw'n gweithio'n agos gyda thirfeddianwyr i ddiogelu'r ardal, gan ddefnyddio mesurau diogelwch ychwanegol gan gynnwys teledu cylch cyfyng, ynghyd â chyfuniad o batrolau amlwg rheolaidd a phatrolau cudd gyda'r nod o atal a chanfod troseddau.

Mae'r chwarel wedi disgrifio fel rhan bwysig o hanes diwydiannol a diwylliannol yr ardal ac hefyd yn ffurfio rhan o dirwedd Safle Traftadaeth y Byd UNESCO - tirwedd llechi Gogledd Orllewin Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae'r safle yn cynnwys adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig, sy'n golygu ei fod yn ased treftadaeth warchodedig o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol."

"Mae difrod i strwythurau ac henebion hanesyddol yn cael effaith hirdymor a gall arwain at golli nodweddion treftadaeth pwysig yn barhaol."

"Oherwydd natur y safle, mae'n cael amddiffyniad ychwanegol yn ôl y gyfraith, a gall y rhai a ganfyddir yn gyfrifol am gyflawni troseddau yno ddisgwyl cael eu trin yn gadarn."

​​​​​​​​​​​​​​

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am ddifrod i safleoedd treftadaeth neu unrhyw weithgarwch amheus, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 8:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'