TaithCymru i lansio ym mis Hydref

Wednesday, 19 August 2026 at 11:38

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Bydd gwasanaeth coetsys dyddiol sy'n cysylltu trefi allweddol yng ngogledd a gorllewin Cymru yn cael ei lansio ym mis Hydref.

Dywed Llywodraeth Cymru y bydd 'TaithCymru' yn lleihau amseroedd teithio o fwy nag awr rhwng Bangor a Chaerfyrddin fel rhan o gynlluniau ehangach  i adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus aml-ddull sydd wedi'i integreiddio'n well.

Bydd gwasanaeth Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn stopio yng Nghaernarfon, Porthmadog, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth ac Aberaeron gyda’r gwasanaeth cyntaf yn rhedeg ar ddydd Sul 25 Hydref.

Yn ôl y dirprwy weinidog trafnidiaeth Mark Hooper, mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei hymrwymiad i lansio'r gwasanaeth o fewn ei 100 diwrnod cyntaf.

Dwyeddod: "Mae TaithCymru yn chwarae rôl hanfodol bwysig wrth gysylltu trefi a chymunedau, gan ei gwneud yn ffordd gyflymach, haws a mwy dibynadwy o deithio er mwyn cyrraedd gwaith, addysg a hamdden."

Mae dros £2 filiwn yn cael ei ddyrannu ar gyfer blwyddyn gyntaf gweithrediadau Taith Cymru, gan gynnwys prynu wyth coets a system archebu ar-lein. Bydd pob taith yn para rhwng 4 awr 45 munud a phum awr.

Yn ogystal â gwella mynediad at swyddi a gwasanaethau allweddol fel addysg a gofal iechyd, mae Taith Cymru wedi'i gynllunio i weithio ochr yn ochr â gwasanaethau presennol sy'n cynnwys TrawsCymru, gwasanaethau bysiau lleol a Fflecsi, mewn ymdrech i annog pobl i gefnu ar eu ceir.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd hefyd yn agor twristiaeth gynaliadwy i gyrchfannau allweddol fel Eryri, Penlŷn a Bae Ceredigion.

Dyweddod Lee Robinson, cyfarwyddwr gweithredol trafnidiaeth rhanbarthol gan TrC: "Mae TaithCymru yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn wrth wella cysylltiadau rhwng gogledd a de Cymru."

"Bydd y gwasanaeth newydd hwn yn sicrhau teithiau cyflymach, mwy cyfleus a mwy cynaliadwy, gan helpu pobl i gael mynediad at swyddi, addysg, gofal iechyd a hamdden, wrth gefnogi ein huchelgais ehangach o greu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus wirioneddol integredig i Gymru."

"Mae TaithCymru yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni pan fyddwn ni'n dod at ein gilydd gyda gweledigaeth gyffredin i wella trafnidiaeth i gymunedau ledled y wlad."

"Mae'r ymrwymiad, y cydweithrediad a'r penderfyniad a ddangoswyd gan dimau ar draws Trafnidiaeth Cymru i gyflwyno'r gwasanaeth hwn wedi bod yn rhagorol."

Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynlluniau ar gyfer rhwydwaith bysiau newydd yng Ngogledd Cymru, a fydd yn lansio yn 2028.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Ar y Lôn hefo Dai Sinclair

    4:00pm - 7:00pm

    Dai sy'n cadw cwmni i chi ar eich ffordd adra! Da 'di Dai!

Wedi Chwarae / Previously Played

  • 4:00pm

    Eich Gorsaf, Eich Llais / Your Station, Your Voice

    MônFM
  • 3:55pm

    Road To Hell

    Chris Rea
  • 3:51pm

    Every Rose Has Its Thorn

    Poison
FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'