Ni fydd gwasanaethau trên ar linell Arfordir Gogledd Cymru am bedair wythnos yn y Flwyddyn Newydd, oherwydd gwaith peirianneg mawr.
Yn ôl Network Rail, caiff dros £25 miliwn ei fuddsoddi yn rheilffordd mewn raglen fuddsoddi "unwaith mewn cenhedlaeth", a fydd yn gweld gwaith yn cael ei wneud ar y trac a darnau eraill o seilwaith ar y llinell.
O ddydd Sadwrn 9 Ionawr, bydd y rheilffordd ar gau rhwng Caer a Chaergybi, gan gynnwys llinell Dyffryn Conwy a Chyffordd Llandudno i Llandudno.
Yn ystod y bedwaredd wythnos, bydd llai o'r rheilffordd ar gau, sef y darn rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi, tan ddydd Sadwrn 6 Chwefror.
Dewiswyd mis Ionawr ar gyfer y gwaith gan ei fod yn gyfnod tawelach i dwristiaeth yng ngogledd Cymru’n draddodiadol, gyda llawer o barciau gwyliau ac atyniadau ar gau am y tymor.
Mae Network Rail yn dweud ei fod wedi bod yn gweithio gyda’i dimau peirianyddol i leihau’r cyfnod clo ar wasanaethau i'r dwyrain o Gyffordd Llandudno.
Ond mae gweithredwr y trac yn mynnu bod yn rhaid cau er mwyn galluogi i'r gwaith gael ei wneud "yn ddiogel ac yn effeithlon".
Dyweddod Emma Osborn, cyfarwyddwr strategaeth i deithwyr gan Network Rail Cymru a'r Gororau: "Mae’r buddsoddiad unigryw hwn yn rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn gyfle euraid i adnewyddu a gwella seilwaith ar draws y llwybr pwysig hwn."
"Mae’n anochel y bydd buddsoddiad ar raddfa mor fawr yn achosi rhywfaint o darfu dros dro wrth inni gwblhau’r gwaith, a gwyddom y bydd cau’r rheilffordd yn effeithio ar gwsmeriaid a chymunedau."
"Ond trwy ddod â gwerth blynyddoedd o waith cymhleth at ei gilydd mewn un rhaglen ddwys, gallwn ei gyflawni’n fwy diogel ac effeithlon, ac osgoi cyfres estynedig o benwythnosau pan fydd y rheilffordd ar gau, sy’n tarfu ar ein cwsmeriaid."
"Bydd y buddion hirdymor i deithwyr a threnau nwyddau yn drech na’r cyfnod o darfu dros dro, trwy gynnig rheilffordd fwy diogel a dibynadwy sydd â’r gallu i gefnogi’r nifer ychwanegol o wasanaethau sydd bellach yn rhedeg ar draws Gogledd Cymru."
"Rydym yn gweithio’n agos â Thrafnidiaeth Cymru ac Avanti West Coast i gadw’r teithwyr i symud. Diolch i bawb ymlaen llaw am eu hamynedd wrth inni gyflenwi’r buddsoddiad mawr hwn."
Mae'r buddsoddiad yn cynnwys gwelliannau mawr i’r trac a’r draeniau yn Nhwnnel Bodorgan, yn adnewyddu seilwaith sy’n dyddio’n ôl i 1972 ac yn helpu lleihau risg llifogydd.
Bydd gwaith hefyd ar bedair croesfan wastad i'r dwyrain o Fangor a gwelliannau i'r trac a'r pwyntiau yng Nghaergybi.

Mae cynlluniau eraill yn cynnwys:
- Adnewyddu’r trac ar Bont Reilffordd Diwbaidd Conwy, sy’n strwythur rhestredig Gradd I. Mae’r trac presennol yn dyddio’n ôl i 1978.
- Adnewyddu’r trac a gwelliannau i’r tir ym Mhenmaen-bach, lle na chafodd darnau o’r trac eu hadnewyddu ers 1986.
- Gwelliannau i’r platfform yng Nghyffordd Llandudno.
- Gwaith rheoli llystyfiant gwerth oddeutu £1.4 miliwn mewn naw lleoliad, ynghyd â gwaith cynnal a chadw helaeth ar hyd y llwybr.
- Dwy bont droed gwbl hygyrch newydd ym Mhrestatyn ac Abergele, yn caniatáu inni gau pedair croesfan wastad risg uchel.
Bydd bysiau’n rhedeg yn lle trenau pan fydd y rheilffordd ar gau. Disgwylir cadarnhau’r trefniadau teithio manwl yn ystod y Hydref.
Gyda mwy o drenau’n defnyddio’r rheilffordd, bydd cau’r rheilffordd ym mis Ionawr hefyd yn caniatáu i dimau Network Rail wneud gwaith cynnal a chadw ychwanegol i leihau'r angen cau’r rheilffordd ar benwythnosau "dros y misoedd a’r blynyddoedd nesaf".
Dyweddod Colin Lea, cyfarwyddwr cynllunio TrC: "Wrth i ni weld cynnydd yn nifer y teithwyr ac amlder y gwasanaethau ar draws gogledd Cymru, mae gweithio ochr yn ochr â'n partneriaid yn Network Rail yn hanfodol i sicrhau y gall ein seilwaith gefnogi'r galw hwnnw."
"Bydd gwaith cynnal a chadw traciau hanfodol, draenio twneli, a phontydd troed hygyrch newydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy a gorsafoedd gwell i'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu."
"Rydyn ni'n gwybod bod cau rheilffyrdd yn amharu ar ein teithwyr, ac rydyn ni'n gwerthfawrogi eu hamynedd. Rydyn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo i gadw gogledd Cymru i symud drwy gydol mis Ionawr, a bydd manylion llawn am drefniadau teithio yn cael eu rhannu'r Hydref hwn."
Ychwanegodd Chris Liptrot, cyfarwyddwr gweithrediadau Avanti: “Bydd newidiadau i’n gwasanaethau ar lwybr Gogledd Cymru wrth i Network Rail gyflawni’r gwelliannau hyn."
"Rydym yn gweithio’n agos â Network Rail a’n partneriaid yn y diwydiant i sicrhau y caiff cwsmeriaid y wybodaeth ddiweddaraf am sut yr effeithir ar eu teithiau."
"Pan fydd yr amserlen wedi’i chadarnhau, argymhellwn i deithwyr sy’n bwriadu teithio yn ystod y cyfnod hwn i wirio gwefannau Avanti West Coast a’r Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol i gael y wybodaeth ddiweddaraf am deithio."


Cau'r brif ffordd i Landdwyn oherwydd gwaith
Bangor: llinell uniongyrchol i fam y babi
Llanfairfechan: rhyddhau gyrrwr ar ôl marwolaeth bachgen
Apêl yn dilyn ymosodiad ym Mhentrefelin
Agor estyniad llwybr Cwb Crwn