Mae dau o bobl wedi cael eu harestio yn dilyn cyrch cyffuriau ym Mwllheli.
Cafodd yr heddlu hyd i swm amheus o gocên ac chanabis o gyfeiriad yn ardal Penrallt ddydd Llun 23 Mehefin, ynghyd â dros £1300 mewn arian parod.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedd pryderon cymunedol ynghylch cyflenwad cyffuriau yn yr ardal.
Cafodd dyn 46 oed a menyw 18 oed eu harestio ar amheuaeth o fod yn rhan o gyflenwi cyffuriau Dosbarth A a Dosbarth B a gwyngalchu arian.
Mae'r ddau wedi cael eu rhyddhau o dan ymchwiliad tra bod ymholiadau'n parhau.
Dwyeddod PC Cai Williams: "Mae delio cyffuriau yn bla ar ein cymunedau ac yn effeithio’n uniongyrchol ar y rhai sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal."
"Mae troseddwyr sy’n ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn achosi niwed dinistriol i bobl agored i niwed er eu helw ariannol eu hunain."
"Rwy’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am gyffuriau yn eu hardal i gysylltu â ni. Byddwn yn ymchwilio i unrhyw adroddiadau ac yn gweithredu’n gyflym i ddwyn troseddwyr gerbron y llys."


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir