Mae lleidr wedi cael ei garcharu am ddwyn cebl copr gwerth dros £4,000 ym Mhorthmadog.
Mi dresmasodd Thomas Keenan, ynghyd â dau arall, yn y ganolfan gyfnewid ffôn BT ar y Stryd Fawr ym mis Mai 2023 a dwyn chwe drym o gebl copr.
Plediodd y dyn 24 oed yn euog i fwrgleriaeth.
Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener, mi gafodd ei garcharu am 13 mis.
Dywedodd Cwnstabl Stephen Jones o Heddlu Gogledd Cymru: "Dydy lladrad copr ddim yn drosedd heb ddioddefwr, ac mae’n cael effeithiau go iawn ar fusnesau ac aelodau’r gymuned."
"’Da ni’n cymryd adroddiadau o fyrgleriaeth o ddifrif, a byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell."


Y Bermo: cyhuddo dyn o ymosodiad mewn siop
Dau yn yr ysbyty ar ôl gwrthdrawiad ger Trawsfynydd
Apêl Noson Tân Gwyllt – "dangoswch barch"
Agor cwest i farwolaeth Michael Ward
Cipolwg cyntaf ar 'Y Streic Fawr'