Porthaethwy: carcharu dyn am gario cyllell

Friday, 19 June 2026 17:15

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Borthaethwy wedi cael ei garcharu ar ôl cael ei ganfod yn meddu cyllell yng nghanol y dref.

Mi roedd Arron Dean, 31 oed o Lôn Cilbedlam, mewn tŷ efo preswylwyr eraill pan ddaeth o’n ymosodol a bygwth eu niweidio nhw.

Mi adawodd y lleoliad efo cyllell yn ei law, a dechreuodd gerdded tuag at y Stryd Fawr.

Mi ddaeth swyddogion o hyd i Dean yn gyflym a’i arestio. Mi wnaeth o daflu’r gyllell i’r llawr pan gafodd ei herio gan swyddogion yn cario dyfeisiau Taser.

Yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau, plediodd Dean yn euog i feddu ar gyllell mewn man cyhoeddus a chafodd ei garcharu am 26 wythnos.

Dywedodd Rhingyll Akhil Patel o Heddlu Gogledd Cymru: "Dydy cario cyllell ddim yn gwneud rhywun yn saffach, mae’n rhoi pawb mewn mwy o berygl."

"Mae ymdrin ag adroddiadau o droseddau cyllell bob tro’n flaenoriaeth i ni. Mi wnawn ni barhau cymryd camau er mwyn cadw cymunedau Ynys Môn yn saff."

"’Da ni’n parhau annog unrhyw un efo gwybodaeth ynglŷn â phobl sy’n cario cyllyll mewn llefydd cyhoeddus riportio’u pryderon nhw i’r heddlu, neu’n ddienw drwy Crimestoppers."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 8:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'