Am y bedwaredd flwyddyn yn olynol, mae cadeiriau olwyn traeth ar gael ar draethau Ynys Môn yn ystod yr haf.
Dywed Cyngor Ynys Môn ei fod yn ehangu ei fflyd o gadeiriau olwyn pwrpasol y gellir eu defnyddio ar dywod, diolch i gyllid grant gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).
Bydd dwy gadair olwyn i oedolion ac un gadair i blant ar gael ar gael ym Menllech, ynghyd ag un gadair olwyn i oedolion ac un i blant yn Llanddwyn.
Mae gan y cadeiriau olwyn hyn deiars mawr, llyfn fel y gellir eu gwthio dros dywod meddal a rhoi cyfle i bawb fwynhau'r traeth.
Yn ogystal, mae 'Mobi-Mat' - wedi'i wneud o blastig wedi'i ailgylchu - wedi'i osod i wella mynediad i'r traeth yn Niwbwrch.
Mae gwasanaeth morwrol y cyngor hefyd yn cyflogi wardeiniaid traeth tymhorol ar hyd a lled yr ynys i helpu ymwelwyr.
Dwyeddod Owen Davies, warden Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Ynys Môn: "Mae pobl wir yn gwerthfawrogi arfordir Ynys Môn, ac mae'n bwysig bod cymaint o bobl â phosib yn gallu cael mynediad ato."
"Mae'n brofiad gwerth chweil gweld defnyddwyr ar y tywod yn mwynhau'r traeth, boed ym Menllech neu Landdwyn, gyda diolch i'r gwasanaeth hwn."
Mae'r cynllun wedi bod yn bosibl trwy bartneriaeth rhwng y cyngor sir, CNC, wardeiniaid traeth y cyngor a Caffi The Bay ym Menllech er mwyn helpu i wneud yn siŵr bod pawb yn gallu mwynhau arfordir Ynys Môn.
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Roberts, sy'n deilio portffolio i hamdden: "Mae'r cynllun hwn yn cefnogi'r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor yn gysylltiedig a lles, cynhwysiant a helpu pobl i fyw'n dda yn eu cymuned."
"Drwy ehangu'r ddarpariaeth rydym yn helpu i sicrhau bod trigolion ac ymwelwyr sy'n defnyddio cadair olwyn yn gallu mwynhau arfordir Ynys Môn yn ddiogel ac annibynnol ac rydym yn ddiolchgar i Gyfoeth Naturiol Cymru a'n partneriaid am ddarparu'r gwasanaeth hwn."
Rhaid archebu cadeiriau ymlaen llaw. Oherwydd y galw a chapasiti staffio yn Llanddwyn, gofynnir i ymwelwyr archebu cadair olwyn o leiaf wythnos ymlaen llaw.
- I archebu cadair olwyn yn Llanddwyn, anfonwch ebost i niwbwrch@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk i wneud yn siŵr bod cadair ar gael a gwneud trefniadau.
- I archebu cadair olwyn ym Menllech, cysylltwch â The Bay Cafe ar 01248 852700 neu baycafe.caffirbae@yahoo.com. Mae'r cadeiriau ar gael bob dydd rhwng 9am a 5pm, ac eithrio Dydd Llun a Dydd Mawrth.


Enw 'Gwyndod' ar gyfer orsaf newydd Wylfa
Prosiect Morlais yn cwblhau gwaith ymchwil
Gwedd newydd i Gŵyl Felin
'Neges mewn Potel' ar gael yng Ngwynedd
Terry Phipps yn ailymuno MônFM