Mae gofalwyr maeth yn Ynys Môn wedi bod yn trafod pwysigrwydd eiliadau 'chwyldroadol' gyda phlant.
Mae plant sydd wedi dioddef trawma yn aml iawn yn datblygu ffyrdd o amddiffyn eu hunain. Gall hyn gynnwys ymddygiad megis pryder, datgysylltu'n emosiynol, gorymateb neu gael trafferth dilyn rheolau.
Yn ystod arolwg a gomisiynwyd gan Maethu Cymru dywedodd 80% o ofalwyr maeth eu bod wedi cefnogi plant sydd wedi arddangos y math yma o ymddygiad.
Er bod yr heriau hyn yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd eu bod wedi sylwi ar newid sylweddol yn ystod y chwe mis cyntaf.
Mae'r canfyddiadau wedi cael eu cyhoeddi cyn Pythefnos Gofal Maeth (Mai 11-24), yr ymgyrch blynyddol mwyaf yn y DU, a gynhelir bob mis Mai, i godi ymwybyddiaeth o faethu.
Mae'r thema eleni, "Dyma beth yw Maethu", yn taflu goleuni ar brofiadau go iawn a'r rôl hanfodol y mae gofalwyr maeth yn ei chwarae i helpu plant deimlo'n ddiogel.
Mae Brian a Hilary wedi bod yn maethu gyda'u hawdurdod lleol ers 14 mlynedd. Maent yn cefnogi teuluoedd lleol drwy gynnig seibiant byr er mwyn helpu plant aros yn y cartref tra bo'r teulu'n derbyn cymorth ychwanegol pan maent ei angen fwyaf.
Dywedodd Brian: "O'r diwrnod cyntaf ers i ni ddechrau maethu, rydym wedi parchu bod gan y plant eu teulu eu hunain. Rydym wedi ymrwymo i weithio ochr yn ochr â theuluoedd a'u cynnwys cymaint â phosib."
"Rydym yn cynnig seibiant byr i deuluoedd sydd angen cymorth o bryd i'w gilydd. Mae'r plant yn dal i fyw adref ond maent yn dod i aros efo ni pan fo angen. Rydym yn camu i'r adwy pan fo angen ac yna'n cymryd cam yn ôl - mae'r trefniant hwn yn gweithio'n dda iawn."
Ychwanegodd: "Hyd yn oed ar ôl ymddeol, rydym yn dal i fwynhau maethu."
"Yn aml iawn y pethau bychain sy'n bwysig ac sy'n gwneud y profiad yn un mor arbennig - gwybod eich bod wedi helpu i gadw teuluoedd efo'i gilydd, cefnogi plant i allu aros yn eu cymuned, a'u cadw'n agos at adref."
"Mae gweld y plant yr ydym ni'n eu cefnogi yn ffynnu, dod yn eu blaen a llwyddo yn yr ysgol yn rhoi cymaint o foddhad i ni."
Dywedodd y gofalwyr maeth bod y newidiadau hyn mewn ymddygiad yn aml iawn yn gysylltiedig â'r pethau bychain, sy'n hollbwysig i blant mewn gofal; maent dechrau gwneud cynnydd, teimlo'n ddiogel, dechrau gwella, a theimlo bod rhywun yn eu caru a'u cefnogi ar ôl dioddef trawma yn ystod eu plentyndod.
Gyda phrofiad, cefnogaeth ac arweiniad proffesiynol dywedodd pob un o'r gofalwyr maeth a holwyd fwy neu lai (93%) eu bod yn hyderus i ddelio ag ymddygiad yn gysylltiedig â thrawma.
Dywedodd Fôn Roberts, cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Cyfarwyddwr Môn: "Yma ym Maethu Cymru Môn, rydym yn falch iawn o'n gofalwyr maeth."
"Rydym yn falch o glywed bod gofalwyr maeth yn defnyddio'r adnoddau sydd ar gael iddynt, a'u bod yn cael effaith bositif ar y plant sydd dan eu gofal wrth gefnogi materion cymhleth fel trawma yn ystod plentyndod."
"Yma ym Maethu Cymru Môn rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein gofalwyr maeth pan mae pethau'n mynd yn dda ac yn mynd o chwith, ac mae'r arolwg hwn yn dangos pa mor bwysig ydi'r gefnogaeth sydd ar gael yn lleol a chymaint y mae pobl yn gwerthfawrogi hynny."
Fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth, gallwch gwrdd â thîm Maethu Cymru Môn yn:
- Dydd Llun 18 Mai: Llyfrgell Llangefni (11yb-1yp)
- Dydd Mercher 20 Mai: Llyfrgell Amlwch (10yb-12yp)
- Dydd Iau 21 Mai: Ffair 'Megasparc' Arleosi a Chreu, M-Sparc, Gaerwen (1-5yp)
- Dydd Gwener 22 Mai: Llyfrgell Caergybi (11yb-1yp)
I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth ar yr ynys, ewch i wefan Maethu Cymru Môn.


Môn yn dechrau ymgynghoriad ar dreth twristiaeth
Newidiadau mawr i amserlenni trên
Talwrn: benthyciad ar gyfer prosiect tai
Urdd 2026: Môn yn codi £380k
Pont y Borth ar gau eto