Llwyddiant cynnar i beilot TB mewn gwartheg

Tuesday, 11 August 2026 08:21

By Ystafell Newyddion MônFM

LC

Mae dau brosiect peilot yn fynd i'r afael â thwbercwlosis mewn gwartheg yn cael eu hestyn, yn dilyn llwyddiant yng Ngogledd Cymru a Sir Benfro.

Daw'r cyhoeddiad wrth i Weinidog y Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd, Llyr Gruffydd, gwrdd â chyfranogwyr y prosiect ar ddiwrnod agoriadol y Sioe Môn. 

Mae 28 o ffermydd a 12 o bractisiau milfeddygol, gyda chefnogaeth Prifysgol Aberystwyth, yn treialu offer a dulliau lle mae ffermwyr a milfeddygon yn gweithio'n agos gyda'i gilydd i gymryd camau, wedi'u teilwra ar lefel buches, i nodi a rheoli risg TB yn eu gwartheg, gwella bioddiogelwch a diogelu buchesi a busnesau rhag TB.  

Ar ffermydd yn y ddwy ardal beilot, mae newidiadau wedi'u gwneud i arferion hwsmonaeth a rheoli buchesi, dulliau prynu gwartheg a mesurau bioddiogelwch i gadw clefydau allan.

Mae ffermwyr a milfeddygon yn rhannu profiadau ac yn defnyddio data i weithredu, gan gynnwys symud anifeiliaid risg uchel ar ffermydd yn wirfoddol fel mesur ataliol. 

Yn ogystal â dangos llwyddiant ar ffermydd sy'n treialu, mae'r dull yn denu diddordeb y tu hwnt i Gymru, gan gynnwys cydnabyddiaeth yn Adolygiad Godfray ac yn strategaeth TB Gwartheg Gogledd Iwerddon.

Dyweddod Llyr Gruffydd, y gweinidog dros wyndwch gwledig a chynaliadywedd: “Mae TB yn gysgod tywyll dros ffermydd teuluol, nid yn unig yr agweddau ariannol er bod hynny'n bwysig wrth gwrs, ond y straen a'r pryder y mae'r clefyd yn eu hachosi.”

“Mae'r prosiectau hyn yn dangos grym ffermwyr, milfeddygon, ymchwilwyr, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a'r llywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd. Gyda'n gilydd, gallwn dorri'r cylch dieflig hwn.”

Ychwanegodd Dr Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: “Mae llwyddiant y prosiectau yng Ngogledd Cymru a Sir Benfro yn dangos i ni fod cydweithio yn allweddol, ac rwy'n canmol pawb sy'n cymryd rhan am eu gwaith hyd yma.”

“Mae'r ddau brosiect yn dangos yn glir ffermwyr a milfeddygon yn datblygu camau gweithredu yn erbyn TB ar lefel buches a lleol gyda'i gilydd – i leihau risgiau TB mewn buchesi yr effeithir arnynt, ac i gadw'r clefyd allan.”

“Drwy bartneriaeth a defnyddio ystod o offer, gwybodaeth a dulliau, gellir cymryd camau cadarnhaol i frwydro yn erbyn TB.”

“Bydd canfyddiadau o waith parhaus y prosiectau hyn hefyd yn helpu i lywio'r gwaith i adnewyddu'r rhaglen dileu TB yng Nghymru.”

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Steffan Huw

    2:00pm - 4:00pm

    Join Steffan for your weekday afternoon Soundtrack!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'