Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i gerbyd deithio i'r ochr anghywir yr A55 ar Ynys Môn.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod nos Lun tra bod yr heddlu'n delio â'r digwyddiad.
Cyn i’r cerbyd ymuno â'r A55, cafodd beiciwr ei daro oddi ar feic ar Ffordd Llundain yng Nghaergybi a cafodd nifer o gerbydau wedi’u parcio eu difrodi hefyd.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, doedd dim gwrthdrawiad ar yr A55 o ganlyniad i'r digwyddiad ac mae'r ffordd wedi ailagor, ond mae ymholiadau'n parhau ac nid oes unrhyw fanylion pellach ar hyn o bryd.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu: "Roedd swyddogion a ddaeth ar draws y cerbyd yn teithio ar ochr gywir y ffordd ac yn gallu dod ag ef i stop yn ddiogel."
Ychwanegodd: "O ystyried y digwyddiadau diweddar yn ymwneud â Heddlu Cleveland, mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydnabod yr emosiynau y gall y digwyddiad hwn eu codi."
"Hoffem estyn ein cydymdeimlad at bawb sydd wedi’u heffeithio gan y digwyddiadau trasig hynny."
Bu farw saith o bobl, gan gynnwys dau swyddog heddlu, mewn gwrthdrawiad ar yr A66 ger Middlesbrough, wedi i gar gael ei yrru ar ochr anghywir y ffordd ddydd Sadwrn. Mae deuddeg o bobl wedi cael eu harestio fel rhan o'r ymchwiliad.
Yn gynharach y mis hwn, bu farw pump o bobl ifanc mewn gwrthdrawiad penben tebyg ar yr M9 yn Swydd Kildare, Gweriniaeth Iwerddon.


Tacsi wedi'i ddwyn a'i yrru ar ochr anghywir yr A55
Bangor: carcharu siopleidr am ddwyn dillad
Carcharu pedoffil am ymosod ar ferch
Perchnogion newydd i gwmni MAD
Llongyfarchiadau i fyfyrwyr TGAU