Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dychwelyd yn 2027

Tuesday, 19 May 2026 11:52

By Ystafell Newyddion MônFM

Iolo Penri

Bydd Gŵyl Fwyd Caernarfon yn dychwelyd yn 2027 ar ôl seibiant o flwyddyn.

Mae'r trefnwyr wedi cadarnhau y bydd yr ŵyl boblogaidd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 8 Fai gyda cheisiadau'n agor yn fuan i stondinwyr.

Cafodd digwyddiad ei ddiystyru ar gyfer 2026 er mwyn datblygu dyfodol yr ŵyl.

Mewn datganiad y llynedd, dywedodd pwyllgor yr ŵyl fod "baich anghynaladwy" ar ei wirfoddolwr, oherwydd strwythur y sefydliad ar y pryd.

Ond mae gweithgareddau codi arian ar gyfer yr ŵyl wedi parhau, gan gynnwys nosweithiau cyri, marchnad Nadolig a stondinau bwyd a diod ar gyfer arddangosfa Noson Tân Gwyllt y dref.

Dwyeddod llefarydd ar ran Gŵyl Fwyd Caernarfon: "Llynedd, penderfyniad hynod anodd i’r Ŵyl oedd penderfynu cymryd saib yn 2026, beth sydd wedi bod yn ddegawd ers ein gŵyl gyntaf."

"Ond, peidiwch a phoeni! Yn y cyfamser rydym wedi bod yn brysur yn cynnal digwyddiadau ac yn paratoi at ŵyl 2027 a fydd yn cael ei gynnal ar yr 8fed o Fai! Bydd ceisiadau ar gyfer masnachwyr yn agor yn fuan iawn!"

Mae'r pwyllgor hefyd wedi cynnal gweithdai a chyfarfodydd rheolaidd i drafod datblygiad a chynaliadwyedd hir-dymor yr ŵyl a’r gymuned trwy’r flwyddyn.

Mae'r ŵyl yn denu tua 40,000 o ymwelwyr bob blwyddyn gyda mynediad am ddim.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Ian

    9:00pm - 11:00pm

    Dwy awr o gerddoriaeth gwych yng nghwmni Ian.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'