Mae Ffair Dreftadaeth Ynys Sanctaidd yn dychwelyd am y bedwaredd flwyddyn yn olynol yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc.
Bydd y digwyddiad sy'n addas i deuluoedd yn cynnwys sgiliau coetir, ail-berfformiadau canoloesol, gweithgareddau archeolegol a chrefftau gwledig traddodiadol. fel rhan o dathliad o dreftadaeth, bywyd gwyllt a thirweddau'r ardal.
Eleni, mae'r ffair hefyd yn nodi uchafbwynt Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi, sydd wedi bod yn gweithio gyda chymunedau lleol ers 2021 ar amrywiaeth o brosiectau sydd â'r nod o ddiogelu a rhannu treftadaeth unigryw'r ynys.
Er bod y rhaglen wedi dod i ben yn ffurfiol fis Mawrth, mae nifer o’i gynlluniau mwyaf llwyddiannus yn cael eu cario ymlaen trwy waith sefydliadau lleol, grwpiau cymunedol a gwasanaethau Cyngor Ynys Môn.
Un enghraifft yw'r prosiect sy'n helpu i warchod a hyrwyddo sgiliau walio cerrig sych. Wrth adeiladu ar y gwaith hwn, bydd gwasanaeth cefn gwlad y cyngor yn parhau i gynnig cyfleoedd hyfforddiant i ddisgyblion lleol ar gyfer y grefft hon sy'n prysur fynd y brin.

Dyweddod Paul Edwards, swyddog proseict cymunedol y partneriaeth: "Gweledigaeth y bartneriaeth oedd codi ymwybyddiaeth o hanes, tirwedd a byd natur hynod ddiddorol ac unigryw Ynys Cybi drwy weithio'n agos gyda chymunedau lleol, ysgolion ac ymwelwyr."
"Drwy hyrwyddo gwell dealltwriaeth o dreftadaeth yr ardal, helpodd y prosiect i feithrin ymdeimlad cryfach o le ac annog y gwaith i ddiogelu a dathlu tirweddau arbennig Ynys Cybi ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
"Rydym yn ddiolchgar i'r holl bartneriaid sy'n cefnogi Ffair Treftadaeth eleni – y rhai sy'n darparu gweithgareddau ar y diwrnod a'r rhai sy'n helpu i fwrw ymlaen â gwaddol a gweledigaeth wreiddiol y bartneriaeth."
Bydd y ffair dreftadaeth, a gynhelir ym Mharc Gwledig y Morglawdd ddydd Sadwrn 29 Awst, hefyd yn cynnwys arddangosiadau ar sgiliau fel adeiladu cwryglau, modelu clai a sesiynau pladuro yn ogystal â gweithgareddau mwy cyfarwydd gan gynnwys rhwyfo a saethyddiaeth.
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Roberts, sy'n dal y portffolio hamdden a thwristiaeth yng Nghyngor Môn: "Yn ogystal â bod yn ddiwrnod allan gwych ar gyfer ein trigolion ac ymwelwyr, mae'r digwyddiad hefyd yn amlygu effaith Partneriaeth Tirwedd Ynys Cybi a phwysigrwydd gwarchod a dathlu ein treftadaeth naturiol a diwylliannol."
"Mae'n gyfle gwych i bobl o bob oed ddysgu mwy am Ynys Cybi a mwynhau amrywiaeth o weithgareddau, arddangosfeydd a phrofiadau. Mae hefyd yn cefnogi blaenoriaethau ehangach y Cyngor, yn cynnwys parhau i reoli ein cefn gwlad yn effeithiol i gefnogi adfywiad natur a datgarboneiddio."
Cynhelir y ffair dreftadaeth rhwng 10yb a 4yp - mae mynediad am ddim ond rhaid cadw lle ymlaen llaw ar rhai gweithgareddau drwy'r gwefan y Cyngor.
Bydd parcio 'talu ac arddangos' ar gael yn y parc gwledig, gyda pharcio ychwanegol am ddim yn y cae sy'n ffinio â Ffordd y Morglawdd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â partneriaethtirlunynyscybi@ynysmon.llyw.cymru


A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir
Carcharu dyn wedi ymosodiad rhywiol ar ferch
A55: cyhuddo dyn ar ôl gyrru y ffordd anghywir
Tacsi wedi'i ddwyn a'i yrru ar ochr anghywir yr A55
Gyrru car ar ochr anghywir yr A55