Dysgwyr yn codi arian ar gyfer Eisteddfod yr Urdd

Monday, 15 December 2025 17:32

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Môn

Mae dysgwyr Cymraeg o Gyngor Ynys Môn wedi bod yn codi arian ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2026.

Trefnodd y dosbarth dysgu Cymraeg canolradd werthiant cacennau yng Nghanolfan Fusnes Môn yn Llangefni yn gynharach mis hwn

Manteisiodd y dysgwyr, sydd wedi ymrwymo i wella eu sgiliau Cymraeg, ar y cyfle i ymarfer yr iaith wrth sgwrsio â chydweithwyr a thenantiaid eraill y ganolfan.

Dywedodd Elin Davies, tiwtor o'r rhaglen Dysgu Cymraeg yn y Gogledd Orllewin: "Fe wnaeth y dosbarth fwynhau trefnu'r digwyddiad yn fawr. Rhoddodd gyfle iddyn nhw ymarfer eu Cymraeg mewn lleoliad go iawn ac i gefnogi achos sy'n golygu cymaint i'n diwylliant."

"Rydym yn falch o fod wedi chwarae rhan fach yn helpu Eisteddfod yr Urdd i ddod i Ynys Môn."

Roedd y digwyddiad ‘Cymraeg a chacen’ yn rhan o ymgyrch flynyddol Defnyddia dy Gymraeg Comisiynydd y Gymraeg, sy'n annog pobl i ddefnyddio a dathlu'r iaith.

Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, sy'n deilio portffolio addysg a'r Gymraeg: "Mae cefnogaeth pawb a ddaeth i bore yn dod â ni'n agosach at wneud Eisteddfod 2026 yn ddathliad cofiadwy o'r iaith a'r diwylliant Cymraeg."

"Mae hwn hefyd wedi bod yn gyfle i ddathlu gwaith caled a chynnydd ein dysgwyr Cymraeg a'u tiwtoriaid."

Bydd yr holl elw o'r digwyddiad yn mynd tuag at gefnogi Eisteddfod yr Urdd, yr ŵyl ieuenctid fwyaf yn Ewrop, a fydd yn cael ei chynnal ym maes sioe Mona am wythnos gyfan ym mis Mai 2026.

Dywedodd Llio Maddocks, cyfarwyddwr celfyddydau’r Urdd: "Un o brif amcanion Eisteddfod yr Urdd yw rhoi cyfleoedd i blant a phobl ifanc ffynnu a mwynhau drwy’r Gymraeg, ac mae hi mor braf gweld bod dysgwyr Ynys Môn yn codi arian er mwyn sicrhau bod rhagor o’n hieuenctid ni yn cael manteisio ar y cyfleoedd hyn."

"Diolch o galon i bob un o staff y Cyngor am y gefnogaeth, ac edrychwn ymlaen i gael sgwrsio gyda chi yn y Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Gareth Thomas

    9:00pm - 11:00pm

    Nos Lun ar MônFM gyda Gareth: cerddoriaeth wych, straeon doniol a sgyrsiau difyr

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'