Ditectif yn euog o edrych ar gofnodion yn anghyfreithlon

Thursday, 9 July 2026 10:48

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae uwch-ditectif o Heddlu Gogledd Cymru wedi’i gael yn euog o gael mynediad anghyfreithlon at gofnodion.

Cafodd Ditectif Arolygydd Emma Gardner ei cyhuddo o ddefnyddio cyfrifadur er mwyn cael mynediad anghyfreithlon at systemau cyfrifiadurol yr heddlu heb iddo fod at brwpas gwaith.

Yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mercher, cafwyd hi hefyd yn euog o gael mynediad digidol ar 13 achos arall oedd yn gysylltiedig â ffrind ac a oedd heb bwrpas plismona iddo, ac ar 47 o achlysuron rhwng Ionawr a Medi 2022.

Mae Gardner, cyn-ringyll yng ngorsafoedd heddlu Caernarfon a Bangor, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tan ei ddedfrydu ym mis Medi.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru y bydd Gardner, sydd wedi cael ei wahardd, bellach yn wynebu achos camymddwyn.

Dyweddod y Dirprwy Brif Gwnstabl Nigel Harrison: "Rydym yn cydnabod penderfyniad y rheithgor."

"Roedd y swyddog wedi cael ei hatal o’i dyletswyddau tra oedd y mater troseddol yn mynd ymlaen, ac fe fyddwn yn symud ymlaen gyda gweithdrefnau camddefnyddio ar ôl dyfarniad heddiw."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Rheinallt a Tomos

    4:00pm - 7:00pm

    Mae'r haul yn tywynnu, mae'r penwythnos wedi cyrraedd, a Rheinallt a Tomos sydd efo chi tan 7!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'