Mae corff dyn wedi cael ei ddarganfod yn ystod chwiliadau am ddau o bobl ar goll o Bwllheli.
Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiadau am gorff wedi'i ddarganfod ar draeth yn Aberystwyth tua 12.30yp prynhawn Sul.
Mae'r dyn bellach wedi'i adnabod fel Connor Parfitt, un o'r dynion y gwnaethom ei gylchredeg fel un oedd ar goll o traeth Hafan y Môr wythnos diwethaf.
Mae ei deulu wedi cael gwybod, ynghyd â chrwner Gogledd Orllewin Cymru.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, nid ydy Simon Wilson wedi'i ddarganfod eto, ac mae swyddogion yn parhau fod yn gefn i'w deulu.
Gwelwyd y ddau ddiwethaf tua 6.30pm nos Fawrth 21 Gorffennaf, o bosibl yn cario caiacau chwyddadwy.
Dywedodd Prif Arolygydd Stephen Pawson: "Mae fy meddyliau yn parhau hefo teuluoedd Connor a Simon yn y cyfnod hynod heriol hwn."
"Nid dyma'r canlyniad yr oedd unrhyw un ohonon ni wedi gobeithio amdano fo, gan gynnwys y timau sy'n rhan o'r chwilio."
"Diolch i asiantaethau partner, gwirfoddolwyr ac aelodau o'r cyhoedd a helpodd ni chwilio dros y chwe diwrnod diwethaf."
"'Da ni'n parhau i apelio am unrhyw wybodaeth neu weld Simon i gysylltu hefo ni gan ddyfynnu cyfeirnod O120829."


Mona yn paratoi ar gyfer Sioe Môn
Gareth Evans-Jones yn ennill Medal Ryddiaith
Y Prif Weinidog yn yr Eisteddfod
Penri yn ennill Medal R. Alun
Adfer adeilad hanesyddol yng Nghaergybi