Cyngor Gwynedd yw'r cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu siarter iaith newydd ar gyfer y gweithle.
Mae TUC Cymru wedi datblygu a mabwysiadu Siarter 'Twf' i helpu gweithwyr, canghennau eu hundebau llafur a chyflogwyr i gydweithio i greu gweithleoedd dwyieithog.
Mae pwyslais penodol hefyd ar sicrhau cynnydd yn nefnydd y Gymraeg yn y gwaith ac ar sicrhau fod gan weithwyr fynediad i gynrychiolaeth gan undebau llafur yn eu dewis iaith.
Cynhaliwyd digwyddiad arbennig yn siambr y cyngor yng Nghaenarfon i ddathlu llofnodi’r siarter yng nghwmni cynrychiolwyr y TUC, undebau Unsain, GMB ac Unite yn ogystal â Lowri Williams, Cyfarwyddwr Strategol Comisiynydd y Gymraeg.
Mae hyn yn dilyn penderfyniad y cabinet fis Rhagfyr diwethaf i fwrw mlaen i fabwysiadu’r siarter.
Dyweddod Nia Jeffreys, arweinydd Cyngor Gwynedd: "Mae’r Siarter Twf yn dod â dau fudiad sy’n agos at fy nghalon ynghyd – mudiad yr iaith a’r mudiad undebau llafur."
"Mae pwysleisio’r hawl i weithwyr y Cyngor ac i bobl Gwynedd gael defnyddio eu hiaith yn hollbwysig, a dyma mae’r siarter yma yn ei wneud."
"Dwi’n hynod o falch mai Cyngor Gwynedd yw’r gweithle cyntaf drwy Gymru i arwyddo - mae’r Siarter Twf yn ofnadwy o bwysig, ac ein nod ni yw gweld twf yn nefnydd yr iaith yn holl waith Cyngor Gwynedd."
"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses ac am y cyfle i gael dathlu yn y digwyddiad arbennig hwn."
Wrth gytuno i fabwysiadu ac arwyddo'r siarter, mae'r undebau a cynghor sir fel cylogwr yn ymrwymo i gydweithio ar sail pedair egwyddor graidd, sef:
- Twf a hawliau’r Gymraeg – ymrwymiad i dyfu’r Gymraeg yn y gweithle.
- Cynhwysiant a chyfiawnder ieithyddol – creu diwylliant gwaith sydd yn gefnogol i ddefnyddio’r Gymraeg.
- Arweinyddiaeth ac atebolrwydd – gwreiddio ethos a diwylliant dwyieithog gweladwy a chynhwysol.
- Dysgu parhaus a meithrin hyder – rhoi cefnogaeth barhaus i staff ddysgu a gwella eu sgiliau Cymraeg.
Dywedodd Dr Mandy James, swyddog cyfathrebu dwyieithog TUC Cymru: "Mae gan undebau llafur rôl hanfodol wrth sicrhau cyfiawnder ieithyddol i weithwyr yng Nghymru; diogelu a hyrwyddo hawliau Cymraeg gweithwyr fel mater o degwch, cydraddoldeb ac ecwiti; ac wrth wneud gweithleoedd yn ddiogel ac yn rhydd o ragfarn a beirniadaeth."
"Mae undebau yn cefnogi eu haelodau a gweithwyr i adnabod, trefnu a sicrhau mwy o gyfleoedd i bawb gynyddu eu defnydd o’r Gymraeg yn barhaus yn y gwaith, a datblygu eu sgiliau Cymraeg."
"Mae defnyddio’r Gymraeg yn sgil gwerthfawr ac ymarferol yn y gweithle ac mae’n cyfoethogi ein bywyd cymdeithasol a’n cymunedau yng Nghymru."
"Bydd Siarter Twf yn cefnogi cynllunio a sicrhau bod gweithleoedd Cymraeg a dwyieithog cynhwysol y dyfodol yn ofodau lle gall gweithwyr ddefnyddio eu sgiliau dwyieithog gwerthfawr."
Mae sichrau fod pob gwasanaeth ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o flaenoriaethau’r cyngor ers ei sefydlu, ynghyd â hybu a chefnogi defnydd o'r Gymraeg gan staff.
Eisoes, mae 99.1% o staff yr awdurdod lleol yn meddu ar sgiliau yn y Gymraeg.
Ycwhanegodd y Cynghorydd Llio Elenid Owen, aelod y cabinet sydd â chyfrifoldeb dros yr Iaith Gymraeg: "Mae’r egwyddorion o fewn y siarter yn dangos ymrwymiad clir i weithio mewn partneriaeth wrth ddarparu gweithle ddwyieithog gynhwysol, ac i hyrwyddo a galluogi’r twf yn y defnydd o’r Gymraeg yn y gwaith."
"Dwi’n gobeithio bydd sefydliadau eraill yn dilyn Cyngor Gwynedd wrth fabwysiadu ac arwyddo’r siarter."
Comisiynwyd y Prifardd Meirion MacIntyre Huws i ysgrifennu englyn i nodi’r achlysur a chafwyd cyfle i’w chlywed wrth gloi’r digwyddiad.
“Awn â gwên i'n llefydd gwaith, - yn drindod
Drwy undeb cawn effaith;
Awn i hybu'n y gobaith
O'u troi oll yn gartra' i'r iaith.”


Urdd 2026: Môn yn codi £380k
Pont y Borth ar gau eto
Cyngor Gwynedd yn ethol cadeirydd newydd
Gwynedd i ymgynghori ar 'dreth twristiaeth'
Chwilio am enw ar gyfer Wylfa SMR