Bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal ei wythnos fusnes flynyddol fis nesaf.
Bydd nifer o digwyddiadau yn caeu eu gynnal o ddydd Llun 14eg i ddydd Gwener 18fed Hydref, gan roi cyfle i fusnesau a sefydliadau ar draws y sir ddod at ei gilydd i rannu, dysgu a pharatoi ar gyfer y dyfodol.
Mae'r cyngor yn ymuno â sefydliadau busnes eraill mewn gwahanol leoliadau ledled o fewn y sir, gan gynnig ystod eang o gyngor a mewnwelediadau i gefnogi busnesau lleol.
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, dirprwy wrweinydd Cyngor Gwynedd: "Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn arbennig o heriol i fusnesau yng Ngwynedd, gyda chostau cynyddol, chwyddiant uchel, ac effeithiau parhaus y pandemig a Brexit."
"Er gwaethaf yr anawsterau hyn, mae cymorth wedi bod ar gael i helpu busnesau i lywio'r cyfnod cythryblus hwn. Rwyf wedi cael y fraint o ymweld â sawl busnes ar draws y sir a gweld yn uniongyrchol ymroddiad anhygoel a gwaith caled y perchnogion a'u timau."
"Bydd Wythnos Busnes Gwynedd 2024 yn rhoi llwyfan gwerthfawr i fusnesau lleol ddod at ei gilydd, rhannu eu profiadau, cysylltu â chyfoedion, ac archwilio ffyrdd o feithrin gwytnwch mewn tirwedd sy'n newid yn barhaus."


Carcharu dyn am dreisio dynes tra roedd hi'n cysgu
Gwobr genedlaethol am fenter realiti rhithwir
Dynes ifanc wedi marw yng Ngŵyl Tonnau
Gweinidog yn agor estyniad Ysgol y Graig
Ymgeisydd annibynnol yn ennill isetholiad Llanrug