Mae dyn 31 oed wedi'i gyhuddo ar ôl i’r cerbyd yr oedd yn ei yrru gael ei stopio wrth deithio i’r cyfeiriad anghywir ar yr A55.
Mae Darragh O’Grady, heb gyfeiriad sefydlog ond yn wreiddiol o Iwerddon, wedi’i gyhuddo o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus, cymryd cerbyd yn waethygol a throseddau gyrru eraill.
Mae hefyd wedi’i gyhuddo o droseddau eraill gan gynnwys lladrad a thwyll drwy gamgynrychiolaeth.
Cafwyd adroddiad bod tacsi wedi’i ddwyn o Gaergybi tua 7.30yh nos Lun. Yn fuan wedyn, bu’r tacsi mewn gwrthdrawiad â seiclwr ar Ffordd Llundain.
Yna aeth y tacsi ar yr A55 tua’r gorllewin gan deithio ar y ffordd gerbydau tua'r gorllewin. Llwyddodd swyddogion i stopio’r cerbyd yn ddiogel ar yr A55 ar ôl cau’r ffordd.
Bydd O'Grady yn ymddangos yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Iau.
Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod digwyddiadau nos Lun wedi’u ffilmio er mwyn eu huwchlwytho i’r cyfryngau cymdeithasol."
"Mae hwn yn parhau i fod yn ymchwiliad gweithredol ac felly rydym yn annog pobl i beidio â dyfalu ynghylch manylion y digwyddiad na’r cymhellion y tu ôl iddo."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth am y digwyddiad, neu unrhyw luniau camera cerbyd, TCC neu ffôn, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod O140476.


Porthmadog: carchar i leidr ar ôl dwyn copr
Bangor: ymchwiliad i digwyddiadau mewn safle bws
Rhybudd yn dilyn lladradau byrnau gwair
Doreen Morris: rhyddhau pedwar dan ymchwiliad
Prif Weinidog yn cofio ei fam