Mae tri dyn wedi cael eu cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cetamin a chanabis.
Cafodd cyffuriau dosbarth B amheus eu hatafaelu o gerbyd ar yr A55 yn Llanfairpwll fis diwethaf.
Mae Guto Jones, 23 oed, o Gwalchmai, Cai McGuigan, 21 oed, o Dŷ Croes ac Christian Robson, 31 oed, o St Helens, wedi’u cyhuddo o gynllwynio i gyflenwi’r cyffuriau.
Mae Jones hefyd yn wynebu cyhuddiadau pellach o feddu ar eiddo troseddol.
Cafodd y tri dyn eu cadw yn y ddalfa am fis yn dilyn gwrandawiad yn Llys Ynadon yr Wyddgrug fore Sadwrn.
Byddant yn ymddangos gerbron barnwr yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun 7 Medi.
Dywedodd yr Arolygydd Ardal Wayne Francis o Heddlu Gogledd Cymru: "Dwi wedi ymrwymo i drechu’r bygythiad mae cetamin yn peri i’n cymunedau ni."
"’Da ni’n parhau arwain o ran gorfodaeth rhagweithiol, yn ogystal ag addysgu ein pobl ifanc ni ynglŷn â pheryglon cetamin."


Bangor: cynlluniau i greu gofod awyr agored
A470: terynged i feiciwr modur a fu farw
Llongyfarch myfyrwyr ar ganlyniadau Safon Uwch
S4C i ddarlledu drama Neil Foden
Mwy o arian adfywio i Fangor