Mae cwest wedi agor yn dilyn marwolaeth dynes o Iwerddon y cafwyd hyd i'w chorff yng Nghriccieth.
Cafodd corff Elizabeth Dunne, 53 oed, ei ddarganfod ar y traeth gan aelod o'r cyhoedd ddydd Sadwrn y Pasg.
Roedd hi wedi bod ar goll o bentref Glendalough yn Swydd Wicklow ar 20 Mawrth.
Yn ôl crwner Gogledd Orllewin Cymru, cafodd ei hadnabod gan ddefnyddio prawf DNA ond mae achos ei marwolaeth yn parhau i gael ei ymchwilio.
Dywedodd Kate Robertson wrth y cwest yng Nghaernarfon fod digon o reswm i amau bod achos yn annaturiol.
Cafodd y gwrandawiad ei ohirio.


Rhybudd cau ar gyfer tŷ ym Mangor
Dyn yn euog o badellu am aur yn anghyfreithlon
Porthmadog: carchar i leidr ar ôl dwyn copr
Bangor: ymchwiliad i digwyddiadau mewn safle bws
Rhybudd yn dilyn lladradau byrnau gwair