Corff dyn wedi'i ganfod yn Llyn Glaslyn

Monday, 28 September 2026 16:29

By Ystafell Newyddion MônFM

Geograph (Mark Percy)

Mae corff dyn 20 oed wedi'i ddarganfod yn Llyn Glaslyn yn Eryri.

Cafodd y gwasaenthau brys eu glaw nos Sadwrn yn dilyn addrodiad bod dyn dyn wedi cael trafferthion yn y llyn a'i fod ar goll.

Dargafuwyd corff Mahammed Maim Islan, o Lundain, toc cyn hanner dydd fore Sul ac fe gafodd ei godi o'r llyn.

Mae crwner Gogledd-orllewin Cymru wedi cael gwybod ac mae ymchwiliadau'n parhau.

Mae teulu Mr Islan wedi ei ddisgrifio fel "ddyn ifanc disglair a hynod hefo dyfodol addawol o'i flaen."

Mewn datganiad teyrnged drwy'r heddlu, dywedodd y teulu: "Roedd yn fab annwyl, yn frawd cariadus, ac yn ffrind gwerthfawr. Gwnaeth ei garedigrwydd a'i gymeriad gyffwrdd â bywydau pawb a oedd yn ei adnabod."

"Mae ei farwolaeth annhymig wedi gadael ei deulu, ei ffrindiau, a'i gymuned ehangach yn drist iawn. Bydd yn cael ei gofio am y llawenydd a ddaeth i fywydau pobl eraill, yr atgofion a greodd, a'r effaith gadarnhaol a gafodd ar y rhai a oedd ddigon ffodus i groesi ei lwybr."

"Bydd Mahammed yn cael ei golli'n fawr ac yn cael ei gofio'n annwyl gan bawb oedd yn ei adnabod. Mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad diffuant yn parhau hefo'i deulu a'i anwyliaid ar yr adeg hynod anodd hon."

"Hoffai'r teulu ddiolch i bawb a wnaeth ymwneud â chwilio a dod o hyd i Mahammed."

Roedd Tîm Achub Mynydd Llanberis a'r Tîm Chwilio Tanddwr ar y Cyd yn rhan o'r ymgyrch chwilio.dros y ddau ddiwrnod.

Dywedodd Prif Arolygydd Steve Pawson o Heddlu Gogledd Cymru: "Mae ein meddyliau hefo teulu a ffrindiau'r dyn ar yr adeg hynod o anodd hon."

"Mae'r crwner wedi cael gwybod ac mae ymholiadau bellach ar y gweill."

"Hoffwn ddiolch i'r holl ymatebwyr brys a gwirfoddolwyr achub mynydd a ymatebodd i'r digwyddiad hwn."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Rheinallt Davies

    4:00pm - 7:00pm

    Ymunwch â Rheinallt am gymysgedd o gerddoriaeth Gymraeg a Saesneg o bob degawd ar MônFM. Wel, dim pob un... dwi'm yn gweld o'n chwarae stwff o'r 1840au!

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'