Carcharu dyn o Gaernarfon a ymosododd ar ei frawd

Wednesday, 17 June 2026 20:53

By Ystafell Newyddion MônFM

Heddlu Gogledd Cymru

Mae dyn o Gaernarfon a ddefnyddiodd ddryll ffug wedi'i addasu er mwyn ymosod ar ei frawd wedi cael ei garcharu.

Plediodd Jamie Williams, 24 oed, yn euog i achosi niwed corfforol gwirioneddol yn dilyn aflonyddwch yng nghartref cariad perthynas ym mis Ebrill.

Fe wnaeth Williams ddyrnu ei frawd yn ei wyneb sawl gwaith mewn ymosodiad digymell cyn defnyddio dryll tanio ffug er mwyn taro'r dioddefwr yn y pen hefo'r carn.

Er bod ei frawd wedi syrthio'n anymwybodol, parhaodd Williams hefo'r ymosodiad trwy ei ddyrnu a stampio ar ei ben gan achosi anafiadau difrifol.

Yna defnyddiodd y dryll tanio ffug, a oedd wedi'i addasu er mwyn tanio bwledi, i fygwth pobl eraill a oedd yn bresennol a cheisio helpu brawd Williams.

Plediodd yn euog i bum cyhuddiad, gan gynnwys meddu ar ddryll tanio hefo'r bwriad o achosi ofn trais, meddu ar ddryll tanio a bwledi heb dystysgrif, addasu dryll tanio ffug yn ddryll tanio defnyddiol a meddu ar ganabis.

Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, cafodd ei garcharu am bum mlynedd a saith mis.

Dyweddod Ditectif Arolygydd Chris Burrow o Heddlu Gogledd Cymru: "Ymosododd Williams ar ei frawd ei hun, a allai fod wedi arwain at farwolaeth yn hawdd."

"Bydd hyn yn ddi-os yn cael effaith barhaol ar y dioddefwr a'r rhai a welodd yr ymosodiad brawychus hwn."

"Mae digwyddiadau o'r natur hon yn brin iawn yng Ngogledd Cymru. Byddwn yn rhoi sicrwydd i drigolion na fydd cario arfau yn cael eu goddef. Byddwn yn mynd ar drywydd unrhyw wybodaeth a adroddwyd i ni."

"Mae unrhyw un sydd hefo gwybodaeth am y rhai sy'n cario arfau, neu arfau ffug yn gyhoeddus, yn cael eu hannog i gysylltu hefo'r heddlu neu'n ddienw trwy Crimestoppers."

Gwnaed gorchymyn fforffedu ar gyfer dinistrio'r gwn, y bwledi a'r canabis.

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • MônFM drwy'r nos / through the night

    Midnight - 7:00am

    Caneuon gwych gyda'r nos / Great songs all night long

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'