Mae dyn o Bwllheli wedi cael ei garcharu am dreisio dynes tra roedd hi'n cysgu.
Mi wnaeth Joel Hookings recordio fideos ar ei ffôn o'r ymosodiad rhywiol a'u storio mewn ffolder cudd ar Snapchat.
Plediodd y dyn 21 oed yn euog a chyfaddefodd hefyd i wneud delweddau anweddus o blant, gan gynnwys 11 delwedd Categori A - y lefel fwyaf difrifol - un ddelwedd Categori B a thair o Gategori C.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ddydd Llun, cafodd Hookings ei garcharu am gyfanswm o wyth mlynedd
Cafodd hefyd orchymyn i gofrestru fel troseddwr rhyw am gyfnod amhenodol a rhoddwyd gorchymyn atal oes ar waith i ddiogelu'r dioddefwr.
Yn dilyn y ddedfrydu, dyweddod y Ditectif Arolygydd Christopher Williams o Heddlu Gogledd Cymru: "Rwy'n falch bod y ddedfryd heddiw yn adlewyrchu pa mor ddifrifol oedd y troseddau a gyflawnodd Hookings."
"Rhaid canmol dewrder a gwytnwch y dioddefwr am ein cynorthwyo yn yr ymchwiliad."
"Byddwn yn ymchwilio'n ddyfal bob amser i ddal y rhai sy'n ceisio gwneud niwed i ferched a genethod. Mae unrhyw un sydd wedi dioddef trosedd rywiol yn cael eu hannog i ddod ymlaen gyda'r hyder y byddant yn cael eu clywed a'u cefnogi."


Gwobr genedlaethol am fenter realiti rhithwir
Dynes ifanc wedi marw yng Ngŵyl Tonnau
Gweinidog yn agor estyniad Ysgol y Graig
Ymgeisydd annibynnol yn ennill isetholiad Llanrug
Carcharu dyn o Gaergybi am luniau anweddus