Mae tri achos o straen newydd o'r tafod glas wedi eu darganfod mewn praidd o ddefaid yng Ngwynedd.
Dyma'r tro cyntaf i'r Tafod Glas-3 - neu BTV-3 - gael ei ganfod yng Nghymru ac mae'n dilyn darganfod achosion yn nwyrain Lloegr dros y mis diwethaf.
Yn ôl swyddogion milfeddygol, fe gafodd y defaid eu cludo i ogledd Cymru o'r rhanbarth.
Mae Llywrodaeth Cymru yn galw ar ffermwyr i fod yn wyliadwrus am y clefyd a phrynu anifeiliaid o ffynhonnell ddiogel.
Mae'r tafod glas yn cael ei achosi gan feirws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan rai mathau o wybed sy'n brathu. Mae'n effeithio ar anifeiliaid cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) a chamelidau (fel alpacas a lamas).
Nid yw'r tafod glas yn effeithio ar bobl nag ar ddiogelwch bwyd.
Mae ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal ar y fferm sydd wedi’i heffeithio i benderfynu a oes angen mesurau rheoli ychwanegol.
Mae parth cyfyngu yn ei le yn ne ddwyrain Lloegr mewn ymdrech i atal lledaeniad y clefyd.
Dywedodd Gavin Watkins, y dirprwy brif swyddog milfeddygol yng Nghymru: "Mae’r achosion sydd wedi’u canfod yng Ngwynedd mewn anifeiliaid sydd wedi’u prynu i Gymru."
“Byddwn yn rhoi mesurau ar waith i atal y clefyd rhag lledaenu o’r tair dafad yma, a’n nod ni o hyd yw cadw Cymru’n rhydd o’r tafod glas."
“Mae’n bwysig siarad ȃ’ch milfeddyg, a phrynu anifeiliaid o ffynonellau diogel er mwyn diogelu ein buchesau a’n heidiau ac atal unrhyw ymledu pellach ar y clefyd allan o Gymru."
"Byddwn yn annog pob ffermwr a phawb arall sy'n cadw anifeiliaid cnoi cil a chamelidau i gadw llygad am arwyddion o’r tafod glas ac i roi gwybod i APHA (Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion) am amheuaeth o unrhyw achosion ar unwaith."
“Rydym wedi bod yn codi ymwybyddiaeth o’r clefyd gyda milfeddygon a'r diwydiant ac yn gwerthfawrogi eu help i gyfathrebu’r risgiau i geidwaid anifeiliaid yng Nghymru."
Ers mis Mai, mae ffermwyr wedi cael eu hannog i fod yn wyliadwrus am arwyddion o’r tafod glas ers yr achos cyntaf yn dilyn achos cyntaf y straen newydd yng Nghaint fis Tachwedd diwethaf.


Carcharu dyn am dreisio dynes tra roedd hi'n cysgu
Gwobr genedlaethol am fenter realiti rhithwir
Dynes ifanc wedi marw yng Ngŵyl Tonnau
Gweinidog yn agor estyniad Ysgol y Graig
Ymgeisydd annibynnol yn ennill isetholiad Llanrug