Mae gweithwyr cadwraeth wedi bod yn gweithio ar uchder sy’n ddigon i droi’r stumog i amddiffyn rhostir bregus uwchben arfordir ym Mhen Llŷn.
Mae planhigion ymledol, a elwir yn rhododendron, wedi bod yn ymledu ar draws rhannau o Fynydd Tir y Cwmwd, safle dynodedig o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SoDdGA) ger Llanbedrog, gan gynnwys wyneb clogwyn a thir serth na ellid ei gyrraedd yn ddiogel fel arall.
Yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), mae trin a chael gwared ar y rhododendron yn hanfodol i ddiogelu'r cynefin rhostir y mae'r rhan hon o'r pentir wedi'i ddynodi ar ei gyfer.
Er fod rhododendron yn gyffredin mewn gerddi, mae’n gallu lledaenu’n gyflym yn y gwyllt gan fygu cynefin a phlanhigion brodorol o dan ei ganopi trwchus. Ar y pentir roedd wedi dechrau blocio golau, tagu'r haen ddaear a gwanhau'r rhostir sy'n diffinio'r safle.
Defnyddiodd CNC gontractwyr arbenigol i wneud y gwaith rhaffau. Ar dir haws, roedd gweithwyr yn trin y planhigion ymledol gyda chwynladdwr, neu ddadwreiddio'r rhai llai â llaw. Aeth y tîm rhaffau i'r afael â'r gweddill, gan gario offer a gweithio ar rannau agored o'r clogwyn.
Mae'r gwaith, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi cael ei ddisgrifio fel "cam pwysig wrth adfer cynefin rhostir sych arfordirol ym Mynydd Tir y Cwmwd."
Dywedodd Arfon Hughes, arweinydd tîm amgylchedd CNC: "Mae rhododendron yn fygythiad difrifol i rai o gynefinoedd brodorol Cymru, ac yn Nhir y Cwmwd roedd yn tyfu mewn mannau a oedd yn anodd iawn eu cyrraedd."
"Roedd y gwaith rhaffau hwn yn caniatáu inni gael gwared ar blanhigion a fyddai wedi parhau i ledaenu ar draws y clogwyni a niweidio'r ecosystem. Mae'n dangos yr eithaf yr awn ni i er mwyn gwarchod ac adfer natur."


Agor cwest i farwolaeth gyrrwr ifanc
Senedd 2026: ymgeiswyr Gwynedd Maldwyn
Senedd 2026: ymgeiswyr Bangor Conwy Môn
Ymchwiliad i gyffuriau ym Mhlas Glynllifon
Rhybudd ar ôl tirlithriad ar draeth Nefyn