Buddsoddiad yn dod â bywyd newydd i feysydd chwarae

Thursday, 12 February 2026 16:34

By Ystafell Newyddion MônFM

Cyngor Gwynedd

Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid i uwchraddio a darparu mwy o gyfarpar chwarae ar draws y sir.

Mae gwelliannau wedi'u cwblhau mewn nifer o feysydd chwarae, gan gynnwys:

  • Cae Glyn, Caernarfon – Siglen fasged (basket swing), sy'n addas ar gyfer plant anabl
  • Ffordd Cynan, Penrhosgarnedd – Cylchfan sy'n addas i ddefnyddwyr cadair olwyn
  • Maes y Môr, Penygroes - Ffrâm amlbwrpas
  • Hen Parc sglefrio, Talysarn – Tarmacio wyneb yr hen safle er mwyn galluogi plant i chwarae pêl.

Bydd gwaith pellach hefyd ar y gweill mewn lleoliadau chwarae eraill ar draws y sir, wedi'i neud yn bosibl trwy ffynonellau grant Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.

Mae Tîm Cyfleoedd Gwaith Anabledd Dysgu hefyd yn y broses o ddarparu byrddau cyfathrebu ar gyfer meysydd chwarae'r sir er mwyn cefnogi ac annog cyfathrebu a sicrhau bod pawb yn gallu mwynhau'r cyfleusterau.

Dywedodd y Cynghorydd June Jones, aelod y cabinet dros asedau bwrdeistrefol: "Wrth i wyliau ysgol hanner tymor agosáu, rydym yn annog plant a theuluoedd i fanteisio ar y cyfleusterau hyn drwy fynd allan i fwynhau'r parciau a'r meysydd chwarae lleol."

"Maent yn cynnig mannau diogel, hwyliog a chroesawgar i dreulio amser o ansawdd gyda'ch gilydd."

"Mae'r buddsoddiad hwn yn tanlinellu ymrwymiad Cyngor Gwynedd i ddarparu cyfleoedd chwarae cynhwysol a chynaliadwy. Rydym yn parhau i weithio gyda chymunedau lleol i sicrhau bod y cyfleusterau hyn yn cael eu cynnal a'u diogelu ar gyfer y dyfodol."

"Rydym yn annog pawb i barchu'r cyfleusterau hyn er mwyn i'r meysydd chwarae barhau i fod yn ddiogel a hwyliog i blant a theuluoedd i gyd."

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

More from Newyddion Lleol

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Soul on Sunday

    8:00pm - 10:00pm

    Join Malcolm Williams for two hours of great music to finish the weekend. Get in touch with the show on Facebook

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'