Mae'r awdurdodau wedi gwneud apêl uniongyrchol i fam ar ôl i gorff babi newydd-anedig gael ei ddarganfod ym Mangor.
Cafodd yr corff eu darganfod gan aelod o'r cyhoedd ar lan y Fenai ger ardal Ffordd Silwen toc wedi 4.50yp prynhawn Sul diwethaf.
Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, mae chwilio mawr yn rhagddo i ddod o hyd i'r fam nad yw wedi'i hadnabod eto.
Bydd archwiliad ôl-farwolaeth yn cael eu gynnal brynhawn Mercher ac mae crwner Gogledd-orllewin Cymru wedi cael gwybod.
Mae gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr (BIPBC) "bryderon go iawn am iechyd y fam".
Dyweddod Fiona Giraud, cyfarwyddwr bydwreigiaeth a gwasanethau merched BIPBC: "‘Da ni’n cydnabod y bydd y fam yn debygol o fod yn hynod fregus. Efallai ei bod hi ofn chwilio am yr help mae hi ei angen gan ei bod ofn dweud pwy ydy hi."
"Yn gyntaf, dwi isho chdi ddalld mai ein pryder pennaf nid ydy dy iechyd di, dy ddiogelwch di, a dy les di. ‘Da ni’n cydnabod efallai dy fod ti’n teimlo’n ofnus, wedi dy lethu, neu ddim yn siŵr beth i’w wneud nesaf."
"Efallai dy fod yn teimlo nad oes gen ti unman i droi, neu os na fedri di siarad hefo unrhyw un am beth sydd wedi digwydd. Paid â theimlo fod rhaid i ti wynebu hyn ar dy ben dy hun."
"‘Da ni’m eto’n gwybod yr amgylchiadau i gyd ynghylch marwolaeth dy faban. Ond beth sy’n bwysig rŵan hyn ydy ein bod ni’n dod o hyd i ti, gwneud yn siŵr dy fod ti’n saff, a gwneud yn siŵr dy fod ti’n derbyn unrhyw sylw meddygol a help wyt ti ella ei angen."
"Dwi’n gofyn yn bersonol i ti gysylltu hefo ni. Mi fedri di siarad hefo gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, mynd at swyddog heddlu, neu fynd i orsaf heddlu."
"Os ti’n gwylio neu’n gwrando ar yr apêl yma, cofia ‘da ni isho clywed gyno ti. Cymra’r cam cyntaf a cysyllta hefo ni. Mae yna bobl a all dy helpu di."
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn dweud y bydd presenoldeb uwch yn ardal Bangor yn y dyddiau nesaf tra bod eu hymchwiliad yn parhau.
Mae ditectifs yn gweithio gydag awdurdodau eraill i sefydlu'r amgylchiadau sy'n ymwneud â marwolaeth y babi.
Dyweddod Ditectif Ringyll Kelly Wynne: "‘Da ni’n pryderu nad ydy mam y baban yn gallu estyn allan am help, felly ‘da ni’n apelio’n uniongyrchol at y fam, y tad, a’r rhai hynny sydd ella’n gwybod, fel ffrindiau, teulu, cymdogion, neu gydweithwyr."
"Os oes gynnoch chi unrhyw wybodaeth am ddynes neu eneth ‘da chi’n feddwl sydd wedi bod yn feichiog neu y mae ei hymddygiad hi wedi bod yn anarferol neu’n groes i’w chymeriad dros y misoedd diwethaf, gan gynnwys cilio oddi wrth ffrindiau, teulu, neu gysylltiadau cymdeithasol, cysylltwch hefo ni."
"‘Da ni’n sylweddoli fod dod ymlaen yn anodd, ond nid ydy gwneud dim yn opsiwn. Mae’r fam angen help yn ddirfawr."
"Os oes gan unrhyw un wybodaeth, ‘da ni angen i chi wneud y peth iawn er mwyn gwneud yn siŵr fod y fam yma’n cael yr help meddygol mae hi ei angen."
"Bydd bob enw sy’n cael ei dderbyn yn cael ei drin hefo’r disgresiwn mwyaf ac fe ellir eu dileu fel y fam heb oedi."
Os oes gynnoch chi unrhyw bryderon uniongyrchol, cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru ar 101, gan ddyfynnu Ymgyrch Melex neu drwy'r gwefan arbennig sydd wedi creu mewn cysylltiad â'r ymchwiliad.
Fel arall, cysylltu â Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111 neu gwasanaeth Ymholiadau a Datrys Pobl gan bwrdd Betsi Cadawaladr ar 03000 851 234 rhwng 10yb a 4yp o ddydd Llun i ddydd Gwener.


Cwpan Cymru: Caernarfon yn wynebu Y Fflint eto
Cau'r brif ffordd fynediad i Landdwyn oherwydd gwaith
Rheilffordd i gau am bedair wythnos
Corff dyn wedi'i ganfod yn Llyn Glaslyn
Carcharu dyn am gam-drin plentyn yn rhywiol