Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i gyffuriau gael eu canfod yng nghefn ei fan ar yr A55.
Cafodd y gyrrwr 49 oed ei ddal yn goryrru ger Gaerwen yr wythnos diwethaf, gan arwain at stop traffig arferol.
Mi gyflawnwyd gwarant yn ei gartref ym Mhorthaethwy, lle daeth swyddogion o hyd i swm mawr o arian parod a chyffuriau a amheuir eu bod yn rhai Dosbarth B.
Mae'r dyn wedi cael ei ryddhau ers hynny dan ymchwiliad wrth i’r ymchwiliad barhau.
Dwyeddod llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae gan pob stop y posibilrwydd o ddatgelu trosedd mwy difrifol. Mae plismona rhagweithiol yn chwarae rhan hanfodol wrth darfu ar droseddu a gwarchod ein cymunedau ni."


Bodorgan: apêl ar ôl ymosodiad ar ddefaid
Targedu fandaliaeth yn Chwarel Dinorwig
Llofruddiaeth Doreen Morris: arestio pedwar
Glynllifon: arestio dau dyn ar ôl canfod canabis
A55: dyn yn cyfaddef gyrru yn y ffordd anghywir