Mae'r heddlu yn ymchwilio yn dilyn sawl byrgleriaeth a dwyn cerbydau ym Mangor dros y penwythnos.
Yn ôl ditectifs, roedd nifer o ddigwyddiadau yn ardaloedd Hirael a Maesgeirchen yn y ddinas rhwng dydd Sadwrn a dydd Sul (31 Ionawr - 1 Chwefror)
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn cynyddu eu patrolau yn y ddwy ardal ac yn annog trigolion lleol i fod yn wyliadwrus.
Dywedodd Ditectif Ringyll Geraint Jones: "'Da ni'n rhybuddio trigolion i fod yn wyliadwrus am weithgarwch amheus ac ystyried diogelwch eu cartrefi a'u cerbydau nhw."
"Gwiriwch bob amser bod drysau a ffenestri wedi'u cloi, a bod goriadau'n cael eu cadw'n saff draw o ddrysau."
"Dwi'n apelio ar unrhyw un a welodd neu a glywodd unrhyw beth amheus rhwng y dyddiadau uchod i gysylltu hefo ni."
"Yn ogystal, dwi'n gofyn i drigolion wirio unrhyw luniau CCC neu gamerâu cerbyd a allai fod wedi dal unrhyw un o'r digwyddiadau neu'r unigolion o dan sylw."
"Mae ymchwiliadau i'r adroddiadau hyn yn parhau, a bydd mwy o batrolau yn yr ardaloedd er mwyn tawelu meddwl."
Os oes gennych unrhyw wybodaeth neu luniau perthnasol, cysylltwch â Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu drwy'r sgwrs we fyw, gan ddyfynnu'r rhif cyfeirnod.26000086044.


Carcharu dyn am dreisio dynes tra roedd hi'n cysgu
Gwobr genedlaethol am fenter realiti rhithwir
Dynes ifanc wedi marw yng Ngŵyl Tonnau
Gweinidog yn agor estyniad Ysgol y Graig
Ymgeisydd annibynnol yn ennill isetholiad Llanrug