Mae Cyngor Gwynedd wedi lansio adnodd newydd fel rhan o ymdrechion i wella diogelwch o amgylch ysgolion ac annog mwy o deithio cynaliadwy.
Mae pecyn wedi'i greu mewn ymateb i geisiadau gan ysgolion a theuluoedd am faterion fel diogelwch ffyrdd, tagfeydd traffig a phroblemau parcio.
Cafodd y pecyn ei lansio ym Ysgol Y Garnedd ym Mangor i nodi Wythnos Cenedlaethol Cerdded i’r Ysgol.
Dyweddod y Cynghorydd Craig ab Iago, aelod y cabinet dros amgylchedd: "Mae sicrhau bod ardaloedd o amgylch ysgolion yn ddiogel i blant yn hollbwysig."
"Roeddwn i’n falch iawn o fod yn rhan o lansio’r pecyn newydd yma a fydd yn adnodd gwych i ysgolion allu rhannu gwybodaeth a chyngor efo teuluoedd mewn modd amserol yn ystod y flwyddyn."
"Fel rhan o hynny, mae’r pecyn yn gam ymarferol i gefnogi ac annog teithio mewn dulliau llesol ar gyfer siwrneiau bob dydd gan gynnwys i ac o’r ysgol."
"Mae hyn helpu i dorri lawr ar allyriadau carbon di-angen, lleihau tagfeydd traffig a phroblemau parcio, gan wneud ardaloedd tu allan i’n hysgolion yn llefydd mwy diogel, atyniadol ac iachus i bawb."

Yn ôl y cyngor, mae’r pecyn wedi ei ddatblygu i ddarparu gwybodaeth glir ac ymarferol i benaethiaid, staff ysgolion a rhieni, ynghyd ag adnoddau defnyddiol i hyrwyddo teithio llesol a lleihau tagfeydd traffig o amgylch ysgolion, gan gynnwys:
- Adnoddau ymarferol megis fideos, taflenni, templedi ac asesiadau risg,
- Canllawiau ar deithio llesol, teithio mewn car a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus,
- Hyfforddiant ac addysg diogelwch ffyrdd,
- Ymarfer da ac enghreifftiau lleol i ysgolion eu hefelychu,
- Gwybodaeth am ymgyrchoedd lleol fel datblygu bysiau cerdded a beicio i’r ysgol.
Dwyeddod y cynghorydd ward Glyder Bangor, Elin Walker Jones, sy'n llywodraethwr yn Ysgol Y Garnedd: "Mae pedair ysgol yn y cyffiniau ac felly rydym yn ymwybodol iawn o broblemau traffig a pharcio yn yr ardal, ac yn llwyr sylweddoli pwysigrwydd teithio llesol i wella iechyd plant yn ogystal â’r effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd."

Mae'r pecyn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth gan Trafnidiaeth Cymru, wedi'i gynllunio i alluogi ysgolion i rannu gwybodaeth berthnasol drwy gydol y flwyddyn.
Dywedodd rhai o ddisgyblion Ysgol y Garnedd sy’n beicio, cerdded a reidio sgwter i’r ysgol: “Pan ti wedi blino yn y bore, mae’r awyr iach yn gwneud i ti deimlo’n fwy ffres. Mae’n helpu chdi i ddeffro ac mae’n hwyl!”
Ychwanegodd y Cynghorydd Dewi Jones, aelod y cabinet dros addysg: "Roedd hi’n braf iawn gweld y pecyn trafnidiaeth ar waith a bod disgyblion yn gweld budd amlwg yn yr adnoddau sydd wedi eu datblygu."
"Bydd yr adnodd hwn yn rhoi cefnogaeth ymarferol gwerthfawr i’n hysgolion i helpu plant a theuluoedd wneud dewisiadau teithio mwy diogel ac iach, gan gyfrannu at iechyd a llesiant hirdymor ein pobl ifanc."


Teyrngedau i'r cerddor a'r cynhyrchydd Robin Evans
Morfa Nefyn: gwaith yn dechrau ar gartrefi newydd
Diolch yr Urdd i Ynys Môn
Eisteddfod yr Urdd 2026: canlyniadau lleol
Elin Undeg yn ennill Coron yr Urdd