Terry Phipps yn ailymuno MônFM

Tuesday, 23 June 2026 10:58

By Ystafell Newyddion MônFM

Mae MônFM yn falch o gyhoeddi bod Terry Phipps yn dychwelyd i'r orsaf i gyflwyno dwy raglen foreol newydd bob wythnos.

Bydd Terry, cyn-gyflwynydd ar hen orsaf masnachol Champion 103, ar yr awyr bob dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 10am a 1pm, gan ddechrau ym mis Gorffennaf.

Roedd Terry hefyd yn rhan o dîm MônFM pan ddechreuodd yr orsaf ddarlledu'n llawn amser ar FM ym mis Gorffennaf 2014, gan gyflwyno'r sioe frecwast.

Yn ystod ei gyfnod fel cyflwynydd ar Champion (Heart yn ddiweddarach, yna Capital Cymru), roedd rhaglen Terry ymhlith yr 20 rhaglen prynhawn (“Drivetime”) fwyaf poblogaidd ym Mhrydain.

Mae hefyd wedi cyflwyno sioeau ar gyfer gorsaf Radio Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Dyweddod Kev Bach, rheolwr rhaglennI MonFM: "Mae hyn yn newyddion gwych i MônFM. Bydd arddull ddarlledu broffesiynol, gyfeillgar a difyr Terry yn apelio at ein gwrandawyr presennol ac at wrandawyr newydd hefyd."

"Mae gennym ni ragor o raglenni newydd yn dechrau’r mis nesaf, gyda mwy o fanylion i ddilyn yn fuan."

Croeso cynnes i Terry i deulu MônFM!

Do you have a local news story to share? Email news@monfm.co.uk

Oes gennych chi stori newyddion lleol i'w rhannu? Ebostiwch news@monfm.co.uk

  • Listen Again

    Click here to listen again to your favourite show!

  • Gwrando Eto

    Cliciwch yma i wrando eto ar eich hoff rhaglen!

More from MônFM

Nawr ar MônFM / Now on MônFM

  • Ian

    10:00am - Noon

    Dwy awr o gerddoriaeth gwych yng nghwmni Ian.

Wedi Chwarae / Previously Played

FM
monfm.co.uk
App
'Play MônFM'