Gyda thristwch mawr y mae pawb yn MônFM yn rhannu’r newydd am farwolaeth, Gwyn Owen.
Roedd Gwyn yn aelod gwerthfawr o deulu MônFM, yn gwasanaethu fel aelod o’r bwrdd ac fel cyflwynydd ar yr orsaf.
Roedd ei angerdd dros radio cymunedol, ei ymroddiad i’r orsaf, a’i bersonoliaeth gynnes wedi cyffwrdd â chymaint o wrandawyr, gwirfoddolwyr a ffrindiau dros y blynyddoedd.
Ni fydd cyfraniad Gwyn i MônFM ac i’r gymuned yr oedd yn gofalu cymaint amdani byth yn cael ei anghofio. Bydd colled fawr ar ei ôl gennym ni i gyd.
Anfonwn ein cydymdeimlad dwysaf at deulu Gwyn, ei ffrindiau, a phawb oedd yn ei adnabod a’i garu yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Gorffwys mewn heddwch, Gwyn.


Senedd Election Special on MônFM