Mae dynes wedi cael ei charcharu am dros flwyddyn ar ôl poeri yn wyneb swyddog heddlu.
Ym mis Awst 2025, mi arestiwyd Kimberley Evans yn ystod digwyddiad mewn ysbyty pan boerodd hi’n uniongyrchol i geg a llygaid swyddog heddlu.
Mi gyfaddefodd ymlaen llaw i ymosod ar weithiwr y gwasanaethau brys.
Yn Llys y Goron yr Wyddgrug ddydd Llun, cafodd Evans, heb gyfeiriad sefydlog, ei garcharu am 58 wythnos.
Dywedodd Arolygydd Jamie Owens o Heddlu Gogledd Cymru: “Mae swyddogion heddlu yn dod i’r gwaith bob dydd er mwyn cadw’r gymuned yn ddiogel.”
Maen nhw’n haeddu cyflawni eu dyletswyddau heb ofni ymosodiad.”
”Mae poeri i wyneb swyddog yn ffiaidd ac yn ffordd gwbl annerbyniol o ymddwyn.”
”Mi wnawn ni barhau i gymryd camau cadarn yn erbyn unrhyw un sy’n bygwth diogelwch gweithwyr y gwasanaethau brys neu’r gymuned ehangach.”


New support app for unpaid carers
Defibrillators donated to traffic officers
Business rate cuts 'don't go far enough' - MS
Missing teenager found after appeal